czwartek, 31 maja 2012

Arholiadau ac eraill

Mae gwyliau'n dod yn nes ac yn nes, felly yr unig peth sydd ar ôl ydy… arholiadau (cerddoriaeth ddramatig, drymiau, sgrechiadau ayyb).

Dwi’n eithaf nerfus oherwydd dwi ddim yn teimlo’n rhy dda yn arholiadau llafar, yn enwedig y rhai Saesneg, dwi wedi sylwi fy mod yn teimlo llawer well pan rydw i’n siarad Cymraeg eleni, ond pam? Nid Cymraeg ydy fy ail iaith... Rhyw ddirgelwch mawr sy’n bod yma!

Ond beth bynnag, bydd yn rhaid imi sefyll hwn a dwy ran arall arholiad Saesneg: y rhan ysgrifennu a gramadeg. Doedd gen i ddim gramadeg ers mwy na flwyddyn, ond dwi’n gobeithio bydd gen i eithaf digon o amser i baratoi, mae gen i lawer o lyfrau gramadeg o’r flwyddyn ddiwethaf a’r un cyn hon. Yn y bôn, mae enghreifftiau yr un fath o gystrawennau bob tro, ond maen nhw’n cael mwy cymhleth ar yr un pryd, felly... Wel, fel dywedodd fy ffrind heddiw, mae fy mhrifysgol yn ceisio gwneud i bobl wneud yn wael yn ystod arholiadau. Gwir! Ond fel arall, fydd lefel astudiaethau ddim mor dda fel rŵan...

Beth bynnag eto, arholiadau eraill (dwi ddim eisiau sôn am ysgrifennu, dwi’n methu gorfodi i finnau ysgrifennu’n dda eleni, dwi, mwy neu lai, wedi canolbwyntio ar y Gymraeg i ryw raddau. Dwi’n mwynhau fy hun wrth ysgrifennu yn yr iaith hon, fel enghraifft y blog yma! Ond petaswn yn ceisio gwneud yr un peth yn Saesneg, wel, methwn, dwi’n sicr.

Ymddiheuriadau, mae fy meddyliau’n crwydro heddiw, dwi’n ysgrifennu am bopeth ond beth ydw i’n ei fwriadu. Felly: Gwyddeleg, Cymraeg ac Astudiaethau Ewropeaidd. Dwi’n eithaf ofn o arholiad Gwyddeleg, gan fy mod yn deimlo nad ydw i’n ei gwybod yn ddigon da (ydw i wedi sôn am hyn o’r blaen?) Ynglŷn a’r Gymraeg: wel, ar hyn o bryd does gen i ddim rheswm i boeni, ond efallai mi wna i ddechrau’n fuan, pwy a ŵyr? Ac y pwnc olaf: dwi wedi mynychu bron a phob gwers, felly, mewn theori, dylwn wybod digon o bethau i lwyddo. Ond mae cymaint o bethau i’w cofio! Hanes Ewrop ac yr Undeb Ewropeaidd, ei strwythurau, holl gytundebau ayyb...

Wel, yr unig beth galla i’w ddweud ydy: gawn ni weld. Dwi ddim yn poeni gormod, dwi ddim yn gallu o achos Cymru sy’n fy nisgwyl, felly dwi’n gobeithio’r gorau!

Hwyl fawr i bawb.

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz