sobota, 22 czerwca 2013

Noc Kupały, Poznań

Mi wna i ddisgrifio'r peth yn fuan, yn y cyfamser, lluniau. Mae'r holl beth yn syniad gwych sy'n edrych yn hollol swynol, on'd ydy?


























czwartek, 23 maja 2013

Cyfweliad Eisteddfod

Mae gen i gyfweliad Dysgwr y Flwyddyn Eistddfod Sir Ddinbych ddydd Sadwrn. Dwi ddim yn nerfus eto, ond dwi'n gwybod bydda i erbyn hynny... Dwi ddim yn siwr beth byddan nhw eisiau gwybod, dwi ddim yn rhy fodlon i siarad amdana i fy hun nac ymffrostio!

Neithiwr, wnes i gyfarfod efo fy athrawon o Gymru, roedden ni'n gwneud nodiadau am bopeth sy'n werth dweud, mae gen i 5 tudalen cyfan, syn eithaf llawer, on'd ydy? Darnau am fy addysg, cynlluniau, cefndir ayyb. Yn y bon, popeth. Tybad a wna i anghofio am y mwyafrif o'r pethau hyn??

Wel. Cawn ni weld. Yr unig peth dwi yn siwr amdano ydy'r ffaith bydd y cyfweliad yn un o anturiau mwyaf y flwyddyn. Bydd rhaid i chi i gyd groesi eich bysedd :)

niedziela, 21 kwietnia 2013

Atgofion cefais gan un ffilm

Sgwn i a ydy (neu oedd) "Xena: Warrior Princess" yn boblogaidd yng Nghymru? Roeddwn i'n siarad efo un person o Gymru'n ddiweddar, a doedd hi ddim yn gwybod amdani o gwbl, ond gan bod gan y ffilm gefnogwyr o gwmpas y byd (neu o leiaf dyma beth maen nhw'n honni), roeddwn i'n tybed a oedd "Xena" yn cael ei dangos ar y teledu ym Mhrydain 'nol yn y 90au neu'r 00au?

Dwi'n cofio i mi wylio'r cyfres a ddarlledwyd ar deledu Pwylaidd pan oeddwn yn blentyn. Yn anffodus, dwn i ddim faint oed oeddwn i ar y pryd. Ond dwi'n cofio i Xena fod yn arwres i mi- roeddwn innau a'm chwaer'n chwarae cymeriadau o'r cyfres, smalio taflu'r chakram ayyb... Atgofion melys :)

Yn ddiweddar, dechreuodd un o sianeli teledu yng Ngwlad Pwyl ail-ddarlledu'r cyfres. Wnes i ddechrau ei wylio heb unrhyw reswm arbennig, jest oherwydd imi ei weld o'r blaen. Mewn gwirionedd, dwi'n chwerthin drwy'r amser bron iawn wrth weld beth mae Xena ei wneud wrth iddi ymladd, ei holl neidio a'i chri eithaf gwirion... Ond ar yr un pryd, dwi'n wirioneddol o hoff o'r ffilm, mae gan cymeriadau synnwyr digrifwch, a gall plot swyno weithiau...

Fy nghynllun ar gyfer y misoedd canlynol: gweld pob ran o'r cyfres, mae'n werth chweil :)

piątek, 12 kwietnia 2013

Llysblant Cymreig?

Hoffai unrhyw un o siaradwyr neu ddysgwyr Cymraeg gymryd rhan yn y cynllun hwn? Gallwch fabwysiadu dysgwyr neu gael eich mabwysiadu gan siaradwyr. Mae taenlen gyda chyfeiriadau e-bost ar gael ar y wefan.

Dwi ddim yn hollol sicr am hynny, ond dwi'n credu gall pobl gysylltu efo'i gilydd drwy'r cyfeiriadau hyn, a helpu ei gilydd i ddysgu'r Gymraeg. Hawdd! Syniad gwych, yn fy marn i, sydd wedi cael ei ddechrau gan Mr. Picton o "C'mon Midfild" os deallais yn gywir.(actor, nid y cymeriad, wrth gwrs :)) Felly- pam beidio ag ymuno?


wtorek, 2 kwietnia 2013

Ceisio bod yn greadigol, rhan 1

Wyt ti eisiau clywed stori?
Unwaith, roedd yna frenin a breswyliai â’i deulu mewn palas gwydr ar dop mynydd anferth â miliynau o eirlys arno. Roedd y blodau’n tyfu ar yr adeilad hefyd, yn ei guddio rhag olwg pobl ddrwg, neu or-chwilfrydig. Achos mae rhaid i ti wybod y gwnaethpwyd y brenin, ei deulu, a phawb arall yn y palas o’r crisial bregysaf a mwyaf tryloyw yn y byd. Ond nid oedd felly o’r dechrau: melltith hen wrach a wnaeth i ddynion o gnawd a gwaed droi i grisial. Ac felly, fe ddisgynnodd galar a phoen mawr ar y llys, ac ni wyddai neb beth i’w wneud. Ni allai neb adael y palas rhag ofn iddynt dorri mewn i ddarnau bychain. Ni wyddai neb am eu tynged, gan ar ôl i’r wrach felltithio’r palas, fe’i ddileodd o gof pawb tu hwnt iddo. Ac yn wir, nid oedd gobaith yng nghalonnau preswylwyr y llys, felly un diwrnod heulog a thwym fe adawon nhw’r lle a neidio o dop y mynydd.
A phan oeddent yn syrthio, dyma fi’n ymddangos am y tro cyntaf. O ble? Wn i ddim. Yr unig bethau imi eu cofio ydyw distawrwydd, düwch, llonyddwch. Ac yna, yn yr eiliad nesaf, roeddwn i’n disgyn fel carreg, a channoedd o gyrff crisialaidd yn syrthio i lawr o dan fy nhraed. Alli di ddychmygu’r fath beth? Ceisia ddychmygu beth ddigwyddodd ar ôl inni i gyd gyrraedd y ddaear. Pan dwi’n cau fy llygaid yn awr, dwi’n teimlo poen yn fy nhrechu, yn gwthio awyr o’m hysgyfaint. Dwi’n gweld briwsion crisialaidd yn codi o’r pridd. Maen nhw’n dal pelydrau’r haul ynddynt, ac yn gollwng enfysau amryliw o’m cwmpas i. Roeddwn yn wylo fel baban bach. Gwyddwn mai oherwydd eu marwolaeth hwythau gallwn ddechrau fy mywyd innau.
Ar ôl amser hir – oriau? dyddiau? misoedd? – codais a dechrau cerdded. Lle troediais, roedd blodau gwydr yn tyfu.

Cwyno

Mae rhaid i mi gwyno am y tywydd eleni. Yr hyn sy'n digwydd fedra i ddim ei ddeall. Mae mis Ebrill wedi cyrraedd, ond dydy'r gaeaf ddim wedi gadael eto, ac bydd hi'n aros am hwy.

Mewn gwirionedd, dwi wedi cael llond bol o eira ac oerni! Gwanwyn ydy fy hoff dymor y flwyddyn, dwi'n methu gwres a gwyrddni, rwan mae popeth mor ddiflas a digalon, does gen i ddim egni i wneud dim byd. Dwi'n gwybod mai dim ond aros gallaf ei wneud, ond tan pryd- mis Mehefin?! Tyrd, wanwyn!

sobota, 16 marca 2013

Rygbi Cymru!

Newydd orffen gwylio'r gem heddiw- llongyfarchiadau enfarw i di^m Cymru!

Dyma oedd gem gyntaf rygbi i mi ei gweld erioed, felly doeddwn i ddim yn deall rheolau o gwbl, doeddwn i ddim yn gwybod pam bod Cymru'n cael cymaint o penalties, pam bod y chwaraewyr yn neidio ar ben ei gilydd drwy'r amser ayyb, ond mewn gwirionedd doedd dim ots gen i o gwbl, dwi ddim wedi gweld gem mor gyffrous ers meitin!

Bydd rhaid i mi ddechrau gwylio gemau rygbi'n fwy aml, yn bendant...

I orffen y cofnod byr hwn - Cymru am byth!!!

sobota, 9 marca 2013

Y Gymdeithas a Thrydar

Pleser mawr ydy dweud fy mod i wedi sefydlu proffeil Cymdeithas Gwlad a Chymru ar Drydar.

Mewn gwirionedd dwi ddim yn gwybod beth gallwn ddisgwyl oherwydd hynny, ond dwi'n gobeithio bydd mwy o bobl Cymru'n dilyn ni- mae Trydar yn eithaf poblogaedd yna, on'd ydy? Ond ar y llaw arall, dwi ddim yn hollol sicr am bobl Gwlad Pwyl, does dim llawer o ddefnyddwyr Trydar fan yma!

Ta beth, cawn ni weld. Croeswch eich bysedd a... dilynwch ni? :)

Trydar Cymdeithas Gwlad Pwyl a Chymru

czwartek, 7 marca 2013

"Y Weithred", y canu, y siarad

Neithiwr fe ddaeth yna ddilyniant Gwyl Dewi Sant ym Mhoznań, ac mi gawson ni gyfle i wylio ffilm ddogfenaidd "Y Weithred".

Dwi ddim yn sicr faint ohonoch chi sy'n gyfarwydd efo hi, felly mi wna i roi disgrifiad byr ohoni. Ffilm am Gapel Celyn a Thryweryn ydy hi, a gweithred tri dyn a oedd yn ceisio rhwystro llywodraeth rhag foddi'r Cwm; yn ofer.

Ar y cyfan doedd y ffilm ddim yn rhy ddrwg, ond i mi, doedd dim rhaid i'r cyfarwyddwr daflu cenedlaetholdeb Cymreig i'm hwyneb i. Dwi'n gwybod nad ydy'r geiriau hyn yn swnio'n gyfeillgar, efallai dwi wedi defnyddio rhai sy'n rhy gryf, ond mae fy nheimlad ynglyn a'r ffilm yn anodd i'w hoelio (er fy mod i'n gwybod bod rhywbeth anesmwyth ynddi). Efallai ychydig mwy o gydbwysedd? Gan fod y ffilm yn bwysig i ni i gyd, mae'n dangos bod wir angen gweithredu dros y wlad a'r iaith.

Ar ol i'r ffilm orffen dechreuon ni weithdy canu. Wnaethon ni ganu caneuon fel Cyfri'r Geifr, Sospan Fach, Calon Lan, Dacw 'Nghariad, Carlo (Dafydd Iwan), Dansin Ber (Gwyneth Glyn), Geiban a Be nawni? (Y Bandana) a sawl can Pwyleg. Wedyn bach o siarad efo fy athrawon, a gorffenodd noson hon o hwyl a sbri.

wtorek, 5 marca 2013

Sut i ymweld a Phoznań drwy gyfrwng y Gymraeg, neu: penwythnos Dewi Sant

Yn y byd lle nad ydy'r iaith Gymraeg yn ddigon gweladwy wrth ystyried gwasanaethau cyfoes, mae yna le lle bydd hi ar gael i bawb a fyddai'n fodlon i'w chlywed: Poznań, Gwlad Pwyl!

Yn ystod y penwythnos diwethaf, cawson y geiriau yma eu gwiredu wrth i ni gael gwestai arbennig: Cymraes o Ogledd Cymru, sydd yn Wrocław ar hyn o bryd, yn astudio gwyddor gwleidyddiaeth yno, yn dilyn cynllun Erasmus. Roedd gynnon ni wyl arbennig- diwrnod Dewi Sant, felly penderfynodd hi ymuno a ni a gweld rhai o lefydd diddorol ym Mhoznań.

Cyrhaeddodd hi ar ddydd Gwener, tua henner dydd. Ynghynt, roedd fy ffrind a finnau'n brysur yn y brifysgol, roedden ni'n ceisio hysbysebu Gwyl Dewi i bobl allan o'r Adran. Wnaethon ni brintio taflenni arbennig i hyrwyddo dau gyfarfod yn y dafarn a gwylio ffilm am fomio Tryweryn. Hefyd, roedden ni'n clymu cennin a chennin Pedr wrth ganllaw grisiau (pob hwyl, tydi?)

Beth bynnag, yn fuan roedd rhaid i ni adael a mynd i orsaf trenau i groeso ein ffrind. Wrth gwrs i ddechrau doedden ni ddim yn gallu ei gweld, roedd degau o bobl yn mynd tu fewn ac allan o'r tren, ond rywsut llwyddom i ddod o hyd i'w gilydd. Aethom yn syth adref, yn siarad am ei thaith ar y ffordd. (Dyma dro cyntaf i ni gael ein synnu gan ei hawsed i ddysgu'r Bwyleg - dim ond am wythnos a hanner oedd hi'n dysgu, ond roedd hi'n cofio llawer o eiriau ac ymadroddion, ac roedd hi'n cronni a chofio llwythi ohonyn nhw pan oedden ni'n crwydro efo hi o gwmpas y ddinas!) Wedyn roedden ni'n eistedd yn fflat fy ffrind, ac aros am ffrind arall i ddod efo bwyd (roedden ni i gyd yn llwgi!) Y diwrnod yma, wnaethon ni goginio 'pyry z gzikiem', sef tatws gyda chaws gwyn, nionod a sbeisys. Math o bryd tradoddiadol Poznań ydy hwn, er nad ydw innau'n ei fwyta'n rhy aml. Ar ol bwyta, roedden ni'n rhy lawn i gerdded, felly arhoson ni gartref tan prynhawn hwyr, yn sgwrsio a gwrando ar gerddoriaeth. Wedyn, aethom i fflat ffrind arall i nol sach gysgu sbar, ac i'r dafarn: Gwyl Dewi oedd hon! Roedden ni'n gyntaf i gyrraedd, ac roedden ni'n poeni na fydd neb arall yn dod, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef bod eithaf llawer o bobl wedi ymgasglu gyda'r amser. Cawson ni noswaith braf iawn, yn yfed, trafod pynciau gwahanol (yn eithaf ffyrnig weithiau!) a chael llwythi o hwyl. Aethom adref yn hwyr iawn, ac roedd rhaid i ni baratoi ar gyfer y diwrnod canlynol.

Wnaethon ni gyfarfod a'i gilydd ar Hen Farchnad, er mwyn iddi weld un o symbolau Poznań - geifr mecanyddol yn gwffio ei gilydd ar glocdwr bob haner dydd. (Dilyniant chwedl ydy popeth: unwaith, roedd rhyw ddyn cyfoethog i ymweld a Phoznań, ac roedd criw o bobl yn paratoi gwledd  grand i'w groeso. Cig carw oedd i fod yn brifbryd o fwyd, ond wnaeth helpwr y cigydd ei losgi. Roedd rhaid iddo fyrfyfyrio, felly penderfynodd rostio cig geifr. Ond yn anffodus iddo, dihangodd ei eifr, dringo clocdwr y ty cyngor, a dechrau gwffio. Chwedl difyr, on'd ydy?) Ar ol i ni weld y geifr, cawsom dro bach o gwmpas yr Hen Farchnad, wedyn i gael brecwast ar gyfer llysieuwraig, yna i brynu rogale marcińskie (croissant arbennig efo past pabi a mel, a chnau ar dop) ac yn y diwedd taith fach o gwmpas Stary Browar (canolfan siopa mwyaf 'snobaidd' / ffroenuchel ym Mhoznań). Cawson ni goffi enfawr a bwyta'r rogale, ac wedyn roedden ni'n cerdded a cheisio prynu rhywbeth ar gyfer parti pen-blwydd ffrindiau fy ffrind a finnau. Ar ol sawl awr dychwelom adref, lle wnaethon ni baratoi cinio blasus, ac wedyn aethom allan, gan iddynt fynd i'r parti.

Y diwrnod canlynol oedd y diwrnod olaf fy ffrind ym Mhoznań. Yn anffodus, doedd fy ffrind o'r Adran ddim yn teimlo'n rhy dda (rhyw ffliw ofnadwy), felly dim ond fi a'r ffrind o Wrocław a aeth allan y tro yna. Diwrnod cerdded oedd hwnna, aethom i barc Sołacki (mi wnes i son amdano yn un o gofnodion ynghynt ar y blog yma). Doeddwn i ddim yno ers meitin, felly pleser enfawr oedd dychwelyd! Roedd y diwrnod yn eithaf braf (efallai bach yn wyntog, ond doedd dim ots gynnon ni), ac wnaethon ni gerdded o gwmpas y parc i gyd bron iawn, yn rhyfeddu at brydferthwch y golygfeydd (wel, o leiaf minnau ;)). Ar ol y parc hwn, penderfynon ni fynd i Malta, lle efo llyn artiffisial. Rhaid i mi gyfaddef nad ydw i mor hoff o'r lleoliad yma, yn enwedig wrth gymharu a pharc Sołacki, ond weithiau mae'n werth ymweld ag ef. Ar ol i ni weld rhan o Malta, roedd yn rhaid i ni fynd 'nol adref, ac ar ol cael pryd o fwyd blasus arall, roedd yna amser i ni fynd i'r orsaf trennau.

Penwythnos llawer o hwyl a sbri oedd y tri diwrnod yma, dwi'n falch iawn i mi gael cyfle i weld fy ffrind o Gymru a defnyddio cymaint o'r Gymraeg! Bechod nad oedd hi'n gallu aros am fwy, ond dwi'n wir gobeithio bydd hi eisiau dod 'nol rhyw ddiwrnod!

poniedziałek, 25 lutego 2013

Cam o'r Tywyllwch

Helo bobl, jest cofnod byr iawn i roi gwybod i chi am raglen newydd ar Radio Caerdydd, sef Cam o'r Tywyllwch. Rhaglen gan Gwenno Saunders a chriw label Peski ydy hi, ac mae'r cyflynwyr yn trafod (yn y Gymraeg!) cerddoriaeth amgen, electronig ac arbrofol o Gymru a thu hwnt.
Mae'r rhaglen ymlaen ar nosau Iau (8-10 yh), ac wedyn, os oes rhywun wedi ei cholli, wedi'i phostio fan hyn: Cam o'r Tywyllwch. Dim ond dwy raglen a chafodd ei chyflwyno hyd yn hyn, ond dwi'n gobeithio am ei llwyddiant, mae'n ddiddorol darganfod cerddoriaeth newydd, bob tro!

sobota, 23 lutego 2013

Corquiéu


Heddiw, roeddwn i'n tyrchu drwy restr artistiaid Ewropeaidd sy'n creu eu cerddorieath mewn ieithoedd lleiafrifol. A des i o hyd i fand o'r enw Corquiéu, sy'n chwarae cerddoriaeth draddodiadol yn yr Astwrieg.

Mae'r Astwrieg yn agos iawn i Galisieg a Sbaeneg. Dydy hi ddim yn iaith swyddogol, ond mae tua hanner miliwn o bobl yn medru ei siarad (yn cynnwys bach mwy na 100 mil o siaradwyr brodorol).

Dyma ddolen i'w proffeil swyddogol ar YT: Corquiéu, dwi'n wir gobeithio y gwnewch chi fwynhau eu cerddoriaeth cymaint a fi, roedd y darganfyddiad yma'n hollol annisgwyl i mi!

czwartek, 21 lutego 2013

Noson sgwrsio

Roedd gynnon ni noson sgwrsio arall neithiwr. Un noson braf yn rhagor, fel arfer!

Y tro yma, roedd fy ffrind yn siarad am ei brofiadau yn Llydaw, am ddysgu Llydaweg, gwella ei Ffrangeg, am bobl a oedd yno, am neuaddau myfyrwyr ayyb. Rhaid i mi gyfaddef iddo fynd trwy eithaf llawer o bethau tra yn Llydaw, ond yn gyffredinol ymddengys Erasmus yn ddeniadol iawn i mi. Bechod na fydd gen i gyfle ceisio mynd fy hun, dwi'n (mewn theori) graddio o'r brifysgol eleni...

Ond ta beth. Un peth arall oedd adroddiad fy ffrind arall a aeth i Gymru am un diwrnod a hanner dwy wythnos yn ol. Roedd ganddi anturiaethau hefyd! Unwaith, cafodd ei chloi tu mewn parc ynghanol Caerdydd cyn bump o'r gloch yn y prynhawn (gwallgof!); yn ffodus iddi, roedd heddlu ar wyliaduriaeth a chafodd ei hachub gan un ohonynt (sy'n medru Cymraeg!) Yn lwcus, doedd dim rhaid iddi neidio trwy'r giat, fel y roedd i un o'm ffrindiau eraill, a chafodd o ei frifo yn ei goes.  Diwedd da i stori (yr un ddiweddaraf, wrth gwrs!)

Ac un pwnc arall oedd math o gynhadledd ffantasi/ffuglen wyddonol a gynhelir ym mis Mawrth ym Mhoznań. Mae gan dri neu bedwar o'm ffrindiau cyflwyniad yno, ac bydd dau ohonynt yn cymharu'r Gymraeg efo'r Sindarin, iaith ellyllon Tolkien. Bydd yn rhaid i mi eu gweld. Llynedd, roedd eu darlith am y Gymraeg yn boblogaidd dros ben, doedd dim digon o le i bawb a oedd yn bwriadu eu gweld! Ac wnaeth dair merch ymuno ag Adran Geltaidd o'i herwydd. Da iawn, gyfeillion :)

Iawn, y tro nesaf byddaf yn ysgrifennu am Ddiwrnod Dewi, hwyl am y tro!

piątek, 15 lutego 2013

Can i Gymru 2013

Ydach chi'n gwylio'r rhaglen hon? Mewn gwirionedd, doeddwn i ddim yn ei dilyn o gwbl tan eleni, dwi'm yn gwybod bron a dim byd amdani, a dwi'n nabod dim ond un ennillydd, ac wedi clywed dim ond sawl can o blith y digwyddiad.

Ond rywsut neu'i gilydd, dwi wedi ymddiddori fy hun yn Can i Gymru 2013, dwi wedi clywed pob un o'r caneuon sy'n cystadlu (ar gael fan hyn: Can i Gymru 2013), ac mae rhaid i mi ddwued fy mod i'n hoff iawn ohonyn nhw i gyd! Maen nhw'n swnio'n ddiddorol ac amrywiol iawn, byddai gen innau broblem i ddewis dim ond un sy'n orau (ar hyn o bryd mae gen i ddau fferfryn - "Mynd i Gorwen Hefo Alys" ac "Aur Ac Arian", ond mae'r gweddill yn hynod o agos). Mae'r digwyddiad yn fyw ar Fawrth 1af, felly fydda i ddim yn ei wylio beth bynnag (dathliad Diwrnod Dewi ym Mhoznań), ond dwi'n gobeithio cai pob un a fydd bob hwyl a sbri. A phob lwc i'r cystadleuwyr!

wtorek, 12 lutego 2013

Spotify yng Ngwlad Pwyl!

Mae gen i newyddion gwych: o'r diwedd, mae Spotify ar gael yng Ngwlad Pwyl (ers tua chwech awr ;)) Dwi mor falch oherwydd hynny, bellach fyddai ddim angen i mi gynllwynio er mwyn ei ddefnyddio! Dwi'n cofio defnyddio dirprwy a chael llawer o drafferth i gysylltu a'i ddefnyddio, sydd ar ben rwan. (Wel, fod yn onest, yn ddiweddar roedd fy Spotify yn meddwl fy mod i ym Mhrydain o hyd, a doedd yna ddim problem i wrando, ond i mi mae'n llawer mwy cyffyrddus cael fersiwn fy hun). Ac mae Spotify yng Ngwlad Pwyl yn rhad iawn: dim ond tua pum pund y mis am y fersiwn gorau!

Dwi'n hoffi'r gwasanaeth hwn: pan oeddwn yng Nghymru, roeddwn i'n gallu gwrando ar lawer o albymau Cymreig (ac eraill, wrth gwrs) sydd ddim ar gael i rywun sy'n gorfod arbed cymaint o arian ag sy'n bosib, a phopeth yn rhad ac am ddim, hyd yn oed heb fersiwn premium neu unlimited. Hefyd, mae'n hynod o ddefnyddiol wrth ystyried gwasanaeth arall o'r enw last.fm: mae'n galluogi scroblio (sgroblio, sgroblo, scroblo, sgroblan?) cerddoriath yn syth i'm cyfrif. A does dim rhaid i mi lawrlwytho unrhywbeth mwyach, felly dwi'n falch iawn o hynny hefyd!

Mi wna i ddechrau defnyddio Spotify Pwylaidd cyn gynted a phosib, yn bendant!

sobota, 26 stycznia 2013

Dathliad Diwrnod Santes Dwynwen ym Mhoznań a'r tywydd

Pam ddylai rhywun ddathlu gyda Folant diflas os gallai wneud yr un peth ar Ddiwrnod Santed Dwynwen, mis ynghynt? Yn dilyn y meddwl yma, wnaeth rhan o Adran Geltaidd gyfarfod mewn un o dafarndau ym Mhoznań i ddangos eu cymorth i'r Santes hon a'i brodyr a chwiorydd NIFERUS (63?!).

Yn anffodus, doedd yna ddim digon o bobl i wneud dim byd mwy na siarad, ond, fel y gwyddwch, mae hynny'n ddigon diddorol yn ei hun. Ac felly, mi wnaethon ni dreulio bron a phedwar awr yn sgwrsio am bopeth a mwy, fel cerddoriaeth, cariadon tramor, gwneud sigarets, tywydd yng Nghymru, fy nheulu, brwydr y ddwy ddraig ar Henfarchnad ym Mhoznań ayyb.

Rydyn ni wedi cynllunio (neu gynllwynio) pwnc y cyfarfod nesaf hefyd: dysgu'r Bwyleg i'n hathrawon (rhagflas: wychowały mnie wilki = cefais fy magu gan fleiddiau) Maen nhw'n gwneud yn eithaf da yn barod yn fy marn i, maen nhw'n dda iawn at ailadrodd pethau :)

Ac wedyn, yn hwyrach, es i'n ol adref, ac roedd y tywydd mor braf! Roedd yn oer iawn iawn, ac roedd yn bwrw eira, felly roedd yr eira yn sgleinio yn yr awyr ac ar balmentydd. Doedd yna ddim gwynt, felly wnaeth yr eira aros ar geinciau, yn eu gwneud yn wyn (ac maen nhw fel hyn o hyd, pan dwi'n sbio drwy'r ffenestr). Golygfa hyfryd!

Dyma gwpl o luniau i chi [os nad oes gennych chi ots o ran eu cyflwr gwael], doedd gen i ddim cyfle i'w tynnu yn ystod y cyfarfod, ond hoffwn i chi weld ychydig bach o wyndra Poznań :)








czwartek, 10 stycznia 2013

Atgofion Gig 50

Yn ddiweddarach, mi gefais gyfle i wylio ffilm am Gig Hanner Cant a oedd ar gael ar S4C ar ol y digwyddiad.

Roedd hi'n mor braf i hel atgofion (am bump awr!), gweld yr hyn a welais am amser hwnnw (yn cynnwys fi fy hun weithiau - eithaf doniol ;)) ond hefyd sawl artist a band nad oeddwn yn gallu eu gweld (oherwydd iddynt fod yn perfformio yn ystod cyngerddau eraill) neu benderfynais beidio (a dwi'n difaru rwan!)

Unwaith eto, mae'n rhaid i mi sylwi i'r gig fod yn anhygoel, ac mai anrhydedd a braint mawr oedd ei mynychu a chael cyfle i ddathlu (os oes bosib dweud hynny heb fod yn Gymraes!)

Gad i ni obeithio bydd y Gymdeithas yn gweithio'n llwyddiannus eleni, ac er diffyg canlyniadau delfryddol y Cyfrifiad, gwnaith yr Iaith gryfhau ei hun yn raddol.

Ac, yn llai o ddifri, gobeithio y wnaith y Gig enill ei Gwobr Selar! :)

niedziela, 6 stycznia 2013

Dysgu'r Gernyweg?

Roeddwn i'n meddwl am hynny ers tipyn o amser, ond ddoe, o'r diwedd, penderfynnais ddechrau dysgu'r Gernyweg. Beth ydw i'n gwybod am yr iaith hon?

Mae hi'n dod o'r un gainc o ieithoedd Celtaidd fel y Gymraeg, ac maen nhw'n debyg i'w gilydd o ran gramadeg, geirfa (ac mwy neu lai - seineg). O'r hyn a glywaf (fel lleygwraig), dywedwn bod y Gernyweg yn swnio fel cymysgiad o'r Gymraeg a'r Llydaweg, felly yn eithaf diddorol!

Os nad ydw i'n anghywir, bu siaradwr brodorol olaf yr iaith farw ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (ar ol canrifoedd o leihau yn rhif o siaradwyr y Gernyweg), ac roedd yr iaith wedi marw am sbel, ond llwydodd pobl frwydfrydig drosti i'w hatgyfodi (yn defnyddio recordiadau o bobl yn siarad, ond hefyd fynonellau o'r Canol Oesoedd. O ganlyniad, mae yna sawl fersiwn o'r 'safon' ar hyn o bryd). Dwi'n credu bod rwan mwy a mwy o bobl gyda'r Gernyweg fel eu hiaith gyntaf, a dydy'r iaith ddim wedi marw bellach gyda sawl mil o bobl yn ei defnyddio.

[Plis, cywirwch fi os ydw i wedi dweud rhywbeth hollol anghywir uwchben!]

Ac felly, dwi wedi cofrestru i gampws digidol sy'n berthyn i un o brifysgolion yng Nghernyw, gan obeithio y bydd fy medr i siarad Cymraeg o ddefnydd wrth dysgu'r Gernyweg, ac y byddaf yn gallu ei defnyddio'n weddol dda ar ol bach o waith caled!

Os oes gennych chi unrhyw gyfeiriadau neu hodffech rannu eich profiadau (os ydych yn neu wedi dysgu'r Gernyweg), rhowch wybod i mi, byddaf yn fwy na bodlon i'w darllen nhw :)