piątek, 25 maja 2012

Owain G.


Dwi ddim wedi sôn amdano o’r blaen, ond hoffwn ysgrifennu ychydig, gan ydw i’n ceisio’n galed gwneud rhywbeth ar gyfer fy mhapur M. A. Beth ydw i’n meddwl am Owain Glyndŵr? Wel, mae’n rhaid imi ddweud bod darllen am ei wrthryfel yn rhwystredig iawn! Dwi’n dychmygu iddynt fod mor agos at annibyniaeth a methu.

Dwi ddim yn gallu helpu fy hun a thueddu meddwl am hanes Gwlad Pwyl, i gymharu. Roedd gennym wrthryfeloedd hefyd, yn enwedig ar ôl rhaniadau’r wlad (Gwrthryfel mis Tachwedd, Gwrthryfel mis Ionawr ayyb), a dim ond un llwyddiannus, yr un yn fy nhalaith innau. Dwi’n cofio imi ddarllen am y gweddill, am eu llwyddiant cychwynnol, ac wedyn aflwyddiant o achos goruchafiaeth y gelyn. Dwi’n edmygu pobl sy’n penderfynu ymladd er hynny oll, maen nhw mor ddewr!

Ac yn ôl am Owain. Roedd yn eithaf arbennig yn fy marn i. Er gwaethaf roedd yn byw yn gysurus fel un o uchelwyr, penderfynodd adael popeth a herio’r brenin. Ac roedd ymateb y Cymry’n eithaf anhygoel, roeddent hyd yn oed yn dod nôl i Gymru o Loegr er mwyn ymuno â byddin Owain. Roedd y wlad yn annibynnol (bron) am bymtheg mlynedd  ar ôl hen Edward I J Ond, yn anffodus, methodd Ffrancwyr a ffrindiau eraill roi digon o gymorth, ac roedd Lloegr yn rhy gryf. Mae hyn mor drist imi, ydach chi’n gwybod? Ond efallai bydd modd i Gymru ailennill annibyniaeth. Un diwrnod. Pe hoffai bobl y wlad, wrth gwrs.

Iawn, mae'n rhaid imi orffen, diolch am eich sylw.

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz