wtorek, 20 listopada 2012

Y ffilm

Iawn. Dwi wedi ei gweld, y ffilm i mi so^n amdani neithiwr. "Twin Town" oedd ei henw hi.

Dwi ddim yn meddwl y mwynheais yr hyn a welais. O reolaeth dwi'n ceisio osgoi ffilmiau gyda gormod o drais, rhegi a rhyw, yn enwedig pan bod nhw'n  hollol ddi-alw-amdanynt. Dwi ddim yn rhy dda a ymdopi gyda theimladau drwg fy hun, heb so^n am y fath beth, ond pobl eraill.

Wrth gwrs, roedd yna ychydig o bethau cadarnhaol: yn y dechrau, roedd rhegu'n eihaf doniol, hefyd, ar adegau mwynheuais synnwyr digrifwch y cymeriadau. Ac, fel arfer, bum yn dwli ar ganeuon Cymraeg a oedd yn y ffilm. Manylion bychain, on'd ydynt? Ond gormod ydy gormod- defnyddiwyd gair fuck dross tri chant o weithiau, ac roeddwn i'n meddwl mai llawer mwy oed yno. Roedd y ffilm yn eithaf gwaedlyd ac eithafol. Gwallgof!

Bydd rhaid i mi ei gweld unwaith eto yn fanwl. Efallai llwyddaf ganfod rhyw werth cudd iddi? Gawn ni weld.

poniedziałek, 19 listopada 2012

Heb deitl

Helo pawb, ymddiheuriadau nad oeddwn yn rhy epilgar y dyddiau hyn, ceisiaf wella fy hun, chwilio am bynciau i  ysgrifennu amdanynt a chynchyrchu rhywbeth yn amlach na rwan.

Ac beth sy'n digwydd ym Mhoznań ar hyn o bryd? Wel, dan ni wedi dechrau ein cyfarfodydd sgwrsio ac mae un wedi digwydd yn barod. Fel arfer wnes i fwynhau fy hun wrth drafod pynciau fel addysg yng Nghymru a cherddoriaeth. Yn anffodus, dim ond pedwar o fyfyrwyr a ymddangosodd. Tybed pam nad ydy pobl eisiau mynychu? Gobeithio bydd mwy o ddiddordeb yn hwyrach.

A hefyd, mae cyfarfodydd ffilm yn dechrau heddiw. Dydw i ddim yn gwybod beth ydy teitl y ffilm heno, syrpreis i ni bydd honno!

Bellach, rydan ni'n gobeithio daw un o artistiaid Cymreig i Boznań ym mis Chwefror neu Fawrth, ond dwi ddim eisiau datgelu unrhyw enw, jest rhag ofn! Ysgrifennaf am hynny unwaith eto, ac efallai bydd rhywun ohonoch chi'n fodlon i ddod draw?

Iawn, dyma ni ar hyn o bryd, mae'n rhaid i mi fynd i'r cyfarfod ffilm, efallai ysgrifennaf ychydig amdani ar ol dod yn ol. Hwyl!