poniedziałek, 7 maja 2012

Hapfeddyliau

Dwi yng nghanol ysgrifennu fy ngwaith cartref ar gyfer y wers Gymraeg yfory. Yn anffodus imi, aeth fy syniadau ar ffo a throdd fy mhen yn wag. Efallai gallaf eu hailddarganfod nhw ar ôl imi ysgrifennu am ychydig yn lle arall? Ond mae'n rhaid imi ddefnyddio'r Gymraeg, siŵr o fod, er mwyn imi gadw fy rhythm Cymraeg arbennig!

Roeddwn yn meddwl am y peth Erasmws soniais amdano un neu ddau fis yn ôl. Dwi'n cofio i un o fenywod sôn am y ffaith bydd canlyniadau a manylion ynglŷn a'r ysgoloriaethau ar gael rywbryd ym mis Mai. Ond pryd yn union? Does gen i ddim syniad, ond eto hoffwn wybod cyn gynted â phosibl. Mae llawer o bethau sydd angen cael eu trefni. Bydd yn rhaid inni fwcio'r hediad, rhaid i finnau gael cerdyn credyd (does gen i ddim un ar hyn o bryd), darparu fy hun ac eitemau hanfodol, ac yn y blaen. Dwi'n nerfus yn fawr iawn, gan nad ydwi'n sicr am fy llwyddiant yn y mater hwn, ond dwi'n edrych ymlaen i wybod ar yr un pryd. Dwii ddim yn hoff o ansicrwydd ac aros.

Roeddem yn siarad am beth ydy'n deilwng o'i weld a phrofi yng Nghymru, a dwi'n gallu gweld bod yna nifer o bethau anhygoel sy'n fy nisgwyl, o leiaf mewn damcaniaeth. Llawer o lefydd, bwyd (cig oen!), pobl, CYNGHERDDAU HANNER CANT! Dyma fy mreuddwyd mwyaf ar hyn o bryd. Efallai ysgrifennaf mwy am hyn yn fy nodyn nesaf, mae hyn YN deilwng nodyn arbennig!

Iawn, felly dyma ni ar hyn o bryd, diolch am ddarllen hyd y diwedd.

3 komentarze:

  1. Dw i ddim yn siwr pryd dach (ydych) chi'n ymwel a Chymru, ond os ydych draw ym mis Awst, ac yn bwriadu myndi'r Eisteddfod (RHYBUDD, gall fod yn ddrud iawn), cadwch olwg ar haciiaith.com Rydym yn ceisio trefnu digwyddiadau cyffrous drwy'r wythnos.

    OdpowiedzUsuń
  2. Byddem yn ceisio mynd i'r Eisteddfod hefyd, rydym yn aros o'r dechrau mis Gorffenaf i'r diwedd mis Medi, felly llawer i ddigwyddiadaui'w gweld: Hanner Cant, Eisteddfod ayyb... Mae popeth yn gyffroes iawn :) Diolch am roi gwybodaeth imi!

    OdpowiedzUsuń