piątek, 16 marca 2012

Gwanwyn!

'Mae'r gwanwyn wedi dod i Boznań heddiw! Roedd y diwrnod hwn mor braf, roedd yn gynnes, heulog a di-wynt.

Ac, wrth gwrs, roedd tagfeydd ymhob man o achos hynny! Dwi ddim yn deall: pam y byddai pobl  yn cychwyn eu ceir yn ystod dyddiau mor hyfryd? Dylent fwynhau eu hunain yn cerdded, yn fy marn i… Neu yn rhedeg. Neu yn mynd efo’u cŵn am dro. Neu unrhywbeth i osgoi ceir drewllyd a swnllyd. Ond na, mae’n well ganddynt yrru a chymryd lle ar y ffyrdd. Fel y canlyniad, mae pobl nad oes car ganddynt (fi, fel enghraifft) yn gorfod naill ai’n aros am fysiau sy’n arfer dod yn hwyr neu aros arnynt tra bod nhw’n gaeth mewn ciwiau enfawr. Llongyfarchiadau, bawb!

Ond, i symud oddi wrth fy nghwyno (cofiwch y gwanwyn!), hoffwn sonio am fy hoff le ym Mhoznań i'w fynd pan ddaw’r gwanwyn, sef Park Sołacki neu Sołacz. Parc arbennig iawn imi ydy hwn, ac roeddwn yn arfer mynd yno bron â phob dydd pan oeddwn yn byw yn agos iawn iddo. Mae ‘na lawer o leoedd prydferth: llyn yn ei ganol, pontydd, gwyrddni ymhob man… Dwi’n ei gymeradwyo’n gryf iawn! Gad imi ddangos cwpl o luniau y parc ‘ma, efallai byddech yn fodlon ymweld a fo un diwrnod? 
fynhonnell: http://d.wiadomosci24.pl/g2/00/67/79/28056_1179350062_f852_p.jpeg
fynhonnell: http://dn3xvn5nu3tgm.cloudfront.net/fotki/27/41/89/b/1181333850442.jpg
fynhonnell: http://gfx.mmka.pl/newsph/313750/401207.3.jpg


Arbennig o arbennig yn wir!
Hwyl.

2 komentarze:

  1. Dw i'n cytuno. Mae Park Sołacki yn brydferth iawn.
    Llongyfarchiadau ar dy blog:)

    OdpowiedzUsuń
  2. Diolch yn fawr am dy sylw neis ;) Efallai gallen ni drefnu un o gyfarfodau sgwrsio yn Sołacz? Neu rhyw fath o gyfarfod yr Adran? Ystyriwch hyn :)

    OdpowiedzUsuń