czwartek, 15 marca 2012

Gwymon, geifr, môr-ladron a merched eiddig, neu sut mae'r Adran Geltaidd yn dathlu Seachtain na Gaeilge

Rydym i gyd yn ddyfeisgar iawn, mae'n rhaid imi ddweud. Mae Seachtain na Gaeilge- Wythnos y Wyddeleg- wedi dod i Boznań, ac roeddem i gymryd rhan. Felly, darparodd pob grŵp un cyflwyniad ar un gân yn y Wyddeleg. Roeddem eu cyflwyno echddoe, yn un o dafarnau ym Mhoznań (dim hyrwyddo yn y fan 'ma ;) [ac bydd pawb yn gwybod beth bynnag]) a ddoe ym mhrifysgol.

Ac wel... Dwi'n eithaf rhwystredig ar ôl echddoe! Yn gyntaf, roedd ein cyflwyniadau yn fwy nag awr a hanner (!) yn hwyr achos roedd yn rhaid i'r dynion a oedd yn gyfrifol am sŵn a delwedd drefnu popeth. Ond, mewn gwirionedd, doedden nhw ddim yn ymddangos i roi digon o sylw i'w gwaith. Roedd eu ffonau symudol yn fwy pwysig iddynt. Gwych. Hyd yn oed yn waeth, dechreuon nhw efo carioci yn lle o'n cyflwyniadau ni! A roedd un o ddynion technegol yn canu 'Hallelujah'... Pe fydden ni ddim yn teimlo mor dig erbyn hyn, byddai hyn yn ddoniol! 
Ond, o'r diwedd, llwyddon ni lawnsio ein gwaith.

Gwnaeth Y Flwyddyn Gyntaf gyflwyniad am y gân Óró, Sé do Bheatha (A)bhaile (sy'n cyfieithu i rywbeth fel "croeso 'nôl gartref"). Roedd yn neis i ddysgu am hanes y gân. Yn gyntaf, roedd hi'n disgrifio Bonnie Prince Charlie, Tywysog Siarl o'r ddeunawfed ganrif  a oedd yn ceisio adennill gorsedd Lloegr. Yn ofer. Wedyn, dechreuodd pobl ei chanu ynglyn ag un o fôr-ladron (dynes!), Gráinne Mhaol (moel- roedd hi wedi torri ei gwallt ei hun!). Unwaith, gwahoddwyd hi gan y Frenhines, a phan oedd hi yno, tisianodd a chafodd hances poced oddi wrth Elisabeth. Ar ôl iddi ei defnyddio, fe'i thaflodd i'r tân. Roedd Elisabeth yn flin, ond esboniodd Gráinne y byddai'n anghwrtais i'w rhoi yn ôl. Wel, ond beth pe byddai'r Frenhines yn hoff iawn o'i hances? Pa drychineb iddi, dychmygwch!

Roedd cyflwyniad Yr Ail Flwyddyn am afr wallgof a ymosododd ar un ffermwr a oedd yn mynd i'w waith. Dechreuodd y dyn ei daith o'i gartref; roedd y diwrnod yn braf a heulog a'r dyn yn eithaf hapus. Doedd o ddim yn disgwyl hen eifr gwallgof ar ei ffordd, ond daeth ar draws un, ymgnawdoliad drygioni go iawn! Doedd gan yr afr dim parch i awdurdodau hefyd, rhwygodd trowsus plismon yn ddarnau ac o'i hachos, dywedodd person yr eglwys lleol mai y Diawl ei hunan a oedd yn mynd ar gefn yr afr. Stori arswyd...

Gwnaeth Y Drydedd Flwyddyn eu cyflwyniad am gân o'r teitl Bean Pháidin, 'Gwraig Padrig'. Yn y bôn, mae’r gân am ddynes ofnadwy o genfigennus o achos dyn ei bod hi’n ei garu. Yn anffodus iddi, mae ganddo wraig. Ac maen nhw’n caru ei gilydd yn fawr iawn. Felly, mae’r ddynes yn troi’n ddrygionus ac yn meddwl am bethau drwg a allai ddigwydd i’r ddynes arall. Siŵr o fod, mae esgyrn wedi eu torri yn rhywbeth braf iawn yn ei meddwl! Serch hynny, dydy hi ddim yn rhy fodlon i ddisgrifio pob peth a hoffai wneud i’w hail. Mae hi’n rhy gwrtais, dwi’n credu… Bechod!

Ac, o’r diwedd, ein cyflwyniad ninnau! Roeddem wedi penderfynnu i siarad am Dúlamán, cân Wyddeleg wych am wymon a oedd yn cael ei gasglu ar lan y môr yn Iwerddon. Yn y gân, roedd ‘na ddau deulu (achos roedd ‘na ddau fath o wymon - defnyddiwyd y math cyntaf i’w fwyta, ac yr ail fath er mwyn llifo dillad) a oedd yn elyn i’w gilydd. Un diwrnod, syrthiodd bachgen o’r ail deulu mewn cariad efo merch o’r teulu cyntaf ond deodd gweddill ei theulu ddim yn hapus oherwydd hynny, roedd y bachgen yn ymddangos yn rhy dlawd iddynt. Ond doedd dim ots ganddo yntau, a dywedodd wrth ei dad-yng-nghyfraith dyfodol os ni fydd yn rhoi bendith i’w perthynas, bydd yn rhaid iddo ei herwgipio. Roedd gennym fersiwn gwych i’w ddangos, sef Dúlamán gan Celtic Woman. Mae’n fywiog iawn, ond yn eithaf anodd i’w ganu, gan bod gan un o brifleisydd llais uchel iawn!

I gloi, roedd y canu yn hwylus a, dwi’n credu, llwyddiannus. Roedd gan grwpiau eraill animeiddiadau gwych a wnaethpwyd gan TG4,  teledu Gwyddeleg. Does ‘na ddim animeiddiad ar gyfer Dúlaman. Yn anffodus, achos hoffwn weld beth bydden nhw’n meddwl amdano!
A dwi’n gobeithio roedd pawb yn mwynhau gwneud cyflwyniadau a’u dangos. A’r canu, wrth gwrs!

Diolch am eich sylw, hwyl fawr!

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz