niedziela, 18 marca 2012

Unwaith


Oherwydd, fel dywedais o’r blaen, roedd ‘na Seachtain na Geilge ym Mhoznań, roedd gen i gyfle i wylio ar ffilm Wyddelig â theitl Once, Unwaith. Am ddim! Ac dwi mor hapus rydwi wedi ei weld… Stori ramant ydy hon, ond nid un nodweddiadol. Wrth gwrs, mae bachgen (o Iwerddon, Glen Hansard, y prif leisydd o un o fandiau roc Gwyddelig, The Frames. Dwi'n edmygu ei lais a mynegiant) yn cyfarfod â merch (Markéta Irglová o Weriniaeth Tsiec) ac maen nhw’n disgyn mewn cariad efo'i gilydd a dechrau creu cerddoriaeth. Cerddoriaeth sydd wedi dwyn fy nghalon, a bod yn onest, yn enwedig Falling Slowly, Yn Disgyn yn Araf. Dwi’n credu enillodd y gân hon Gwobr yr Academi (Oscar) a nid oes ryfedd, wir i chi! Un o’m caethinebau i newydd ydy hi ar hyn o bryd, a gadewch imi ei rhannu, dwi’n gobeithio y byddech ei mwynhau hefyd. Neu rydych ei mwynhau yn barod! Ond, i ddod yn ôl i’r ffilm, wel, beth galla i’w ddweud? Dwi’n hoff o straeon cariad platonaidd achos bod nhw’n ymddangos yn bur a gwir imi. Ac er gwaethaf doedd ‘na ddim happy ending fel y bydd pawb yn ei ddisgwyl, ac roedd teimladau'r prif gymeriadau ychydig yn drwsgl a lletchwith, apeliodd modd y stori imi. Hoffwn ei weld eto, cyn gynted â phosibl… Dwi'n credu byddai'r syniad o biau fy nghopi fy hun yn un da!

Falling Slowly i'w chlywed:


Brak komentarzy:

Prześlij komentarz