piątek, 9 marca 2012

Ar ôl heddiw

Dwi'n dechrau hoffi siarad yn gyhoeddus, wir i chi! Ond dwi'n teimlo'n fwy hunan-hyderus pan rydwi mewn grŵp, does dim rhaid imi fod mor nerfus...
Felly, fel sonias o'r blaen, roedden ni'n recordio ein hareithion ar gyfer y dogfen am Boznań a myfyrwyr yr Adran Geltaidd. Pan ofynwyd beth ydy pethau pwysig am yr iaith ac ei dysgu, soniai pawb am bethau sy'n bwysig imi hefyd. Dwi'n credu mod i wedi ysgrifennu am bron â phopeth yn fy nodyn diweddarach.


Ar ôl inni ddisgrifio ein profiadau personnol (er gwaethaf anawsterau technegol), gwnaethon ni ddechrau trafod pynciau amrywiol mewn cysylltiad â Chymru: ei cherddoriaeth, llenyddiaeth, hanes ac yn y blaen. Wrth gwrs, roeddwn yn siarad yn wirion ac yn cyfarch hapbobl. Da iawn, Asia....... Ond, ar y llaw arall, efallai byddai bois o Sen Segur neu Elin Fflur yn edrych ar y dogfen? Golygfa ddiddorol! Yn anffodus, fodd bynnag, anghofias am ddweud 'helo' wrth Fflur Dafydd, pa gywilydd! Felly, cofion cynnes, Mrs. Dafydd!


Iawn 'te, dwi'n edrych ymlaen i weld y ffilm golygedig!


Hwyl!
[Gad imi orffen efo Ff. D.]


Brak komentarzy:

Prześlij komentarz