wtorek, 6 marca 2012

Ar ôl fy argyfwng bach neithiwr

Mae popeth yn iawn rŵan. Dwi'n teimlo'n llawer gwell a rydwi'n barod i ysgrifennu bellach.

Diolch i Celtic Woman, band o Iwerddon. Ces i un o'u halbymau oddi wrth un o'm ffrindiau a dwi'n gaeth ar hyn o bryd, yn gwrando ar bob cân llawer a llawer o weithiau. Dwi ddim yn siŵr sut i ddisgrifio eu cerddoriaeth, mae hi mor... epig. Ie, dyma'r gair. Pan rydwi'n gwrando ar y caneuon, dwi'n teimlo fel pe byddwn yn rhan o ryw fath o anturiaeth! 

Dwi'n credu bydd y gerddoriaeth fel hon yn berffaith fel trac sain ar gyfer ffilm antur, efo pobl â phwerau gorywchnaturiol, llefydd syfrdanol o brydferth a chreaduriaid anarferol. Mae'n hawdd imi ddychmygu golygfeydd o bobl yn ymladd neu ymlid â'i gilydd, efo cerddoriaeth Celtic Woman yn y cefndir. Fel enghraifft:



Onid ydy hyn yn addas ar gyfer y math hwn o bethau?

Iawn, digon ar hyn o bryd, mae pethau rydwi'n eu hysgrifennu wedi dechrau colli synnwyr. Ond, ar y llaw arall, dwi'n hoff o anhrefn. Felly, efallai dylwn ddefnyddio llif yr ymwybod y tro nesaf? Gawn ni weld.

Diolch am eich sylw, annwyl bawb.

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz