wtorek, 27 marca 2012

"Adolygiad"?


I ddechrau, gadewch imi ddweud nad ydwi’n gallu ysgrifennu adolygiadau, ni roddwyd y ddawn o wneud hyn imi. Felly, byddwn yn anelu at greu rhywbeth o leiaf tebyg i adolygiadau cyffredin (peth anodd i’w wneud!) a... wel, gawn ni weld beth fydd y canlyniad.

Iawn, dwi newydd orffen darllen “Y Llyfrgell” gan Fflur Dafydd, un o lyfrau pwysig yng Nghymru ar hyn o bryd. Cafodd Wobr Goffa Daniel Owen yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol (beth ddigwyddodd i’w weld yn y fan yma: 149. Gwobr Goffa Daniel Owen) yn 2009, llawer o ganmoliaeth, bron â 4000 o gopïau’r llyfr a chafodd eu gwerthu; mewn gair: llwyddiant (i safonau Cymru), dwi’n credu!

Ac yn fy marn i, er nad ydwi’n gwybod dim byd am lyfrau Cymraeg (neu Gymreig) eraill o’r tymor diweddaraf, mae yna le i ganmoli ei llyfr hi a haeddodd Fflur Dafydd ei hun y wobr soniais amdani. Mae hi’n gwneud cymaint i ddiwylliant Cymru: cerddores wych ydy hi, mae hi’n ysgrifennu (llyfrau: cafodd hi sawl gwobr erbyn hyn ac dwi’n gobeithio bydd yna fwy ohonynt yn y dyfoddol; erthyglau ar gyfer papurau; adolygiadau), dwi wedi clywed ei bod hi’n cyfrannu at orsafoedd radio. Mae’n rhaid iddi fod yn brysur! Iawn, digon amdani ar hyn o bryd, gadewch imi ddychwelyd at ei llyfr.

Felly, llyfr sy’n disgrifio dyfodol Cymru ydy “Y Llyfrgell”. Mae popeth yn digwydd yn 2020 ac mae llywodraethau wedi cael gwared o lyfrau, dim ond e-darllenwyr sydd ar gael bellach. Mae popeth yn digwydd rhwng pedwar mur o’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Mae yna bedwar o brif gymeriadau: efeillion Ana a Nan, Dan y porthor, ac Eben, adolygwr, ac mae y merched a Dan ymhlith â gweithwyr y Llyfrgell.

O ran Eben, mae ef ei hun a’r merched yn meddwl roedd ei adolygiadau cas wedi gwneud mam Ana a Nan llad ei hun. Rŵan, cafodd o ganiatâd i fynd drwy ddyddiaduron Elena er mwyn ysgrifennu ei bywgraffiad. Mae o'n credu bydd y modd hwn yn rhyw fath o benyd iddo. Fodd bynnag, bydd y diwrnod yn eithaf ddiddorol iddo wrth ei eistedd yng nghell cof Elena Wdig.
Dydy Dan, y porthor, ddim yn hapus oherwydd ei waith. Mae o’n meddwl fod o’n ddiflas dros ben a nad oes neb sy'n gweithio yn y Llyfrgell yn deilwng o’i barch. Felly, gan ei fod o’n eithaf medrus mewn cyfrifiaduron a chan fod Yr Archborthor, ei fos, wedi mynd i Gaerdydd, mae o’n penderfynnu i ddodi ffug lun ohono yn gweithio yn lle llun camerau gwir. Mae hyn o fantais i Ana a Nan a bydd eisiau mynd ati i gwblhau eu cynllun maleisus yr oeddent yn meddwl amdano ers misoedd. Dwi ddim eisiau sbwylio eich hwyl dyfodol, felly fyddwn ddim yn adrodd plot i gyd, ond gallech fod yn siŵr bydd yna gyffro, saethu, llyfrau go iawn (er nad oeddent yn bodoli bellach- mewn theori...), cuddfannau’r Llyfrgell, ychydig o wallgofrwydd, llawer o ddirgelion: popeth!

ffynhonnell: http://www.bbc.co.uk/cymru/cylchgrawn/img/llyfrau/446x251/y-llyfrgell.jpg 

Mae’n rhaid imi ddweud roedd y diwedd yn annisgwyl a chlyfar iawn, llongyfarchiadau am hwn, pan sylweddolais beth fydd yn digwydd, roeddwn yn llawn edmygedd (waw mawr, wir i chi!) Ond dwi’n credu bydd rhaid i chi ei darllen am eich pennau eich hunain, mae’n werth gwneud hynny!








2 komentarze:

  1. Ydy'r llyfr ar gael yn ein llyfrgell ni? Dy adolygiad yn ardderchog;)

    OdpowiedzUsuń
    Odpowiedzi
    1. Nac ydy, yn anffodus, ond mae gen i gopi fy hun, felly os hoffet ti, gallaf ei roi iti rywbryd, efallai nos Iau yn ystod ein cyfarfod sgwrsio?

      Usuń