poniedziałek, 3 września 2012

Cyn Gwyl Gwydir

Iawn, felly ar hyn o bryd dwi'n eithaf sicr galla i fynd i Wyl Gwydir eleni: mae fy lifft i Lanrwst wedi cael ei setlo, mae gen i le i gysgu, mae gen i ffrind i fynd efo hi... Ac mae gen i ddisgwyliadau eithaf uchel wrth ystyried y lein-yp eleni! Mae yna gryn dipyn o fandiau ac artistiaid fy mod i'n hoff ohonyn nhw (o'r dechrau un neu erbyn hyn :))- Sen Segur, Candelas, Jakokoyak, Mr Huw, Swnami, Violas, Yr Ods...

I mi, ar hyn o bryd o leiaf, perfformiad Violas bydd uchafbwynt yr holl wyl, a dwi'n edrych ymlaen at hynny'n fwyaf. Mewn gwirionedd dwi'n hoff o bob un (!) o'u caneuon, a phrin bydda i'n dweud y fath beth! Maen nhw wedi rhyddhau eu hEP newydd, Nos Somnia, ychydig llai nag wythnos yn ol, ond dim ond heddiw ces i gyfle i'w glywed. Ac beth ydw i'n ei feddwl? Wel, dywedais unwaith mai athrylithoedd y SRG ydy Violas, a dwi ddim wedi newid fy meddwl, mae NS wedi cryfhau fy marn i hyd yn oed!

Ac beth am berfformwyr eraill?

Felly: Sen Segur ydy fy ail hoff fand rwan, mae ganddyn nhw EP arbennig o dda hefyd (Pen Rhydd efo can arbennig o arbennig i mi, Oswald), a dwi wedi eu gweld nhw yn ystod Hanner Cant. Yn anffodus, roedd eu gig ychydig yn siom i mi, felly bydd yn rhaid iddyn nhw wneud eu gorau y tro yma!

Ynglyn a Candelas: maen nhw'n swnio fel The Strokes Cymreig i mi. Dwi wedi clywed yr hyn sydd ar gael ar soundcloud ac mae'n rhaid i mi gyfaddef mai cerddoriaeth ddymunol ydy honno, felly byddai'n neis eu gweld a chlywed ddydd Sadwrn.

Roedd perfformiad Jakokoyak yn ystod Hanner Cant yn bleser pur i mi, a dwi'n disgwyl o leiaf yr un peth yn Llanrwst. Gawn ni weld sut bydd o, a dwi'n tybed pwy bydd yn canu efo fo, Gwenno Saunders eto? Byddai'n neis :)

Doeddwn i ddim yn rhoi llawer o sylw i ganeuon Mr Huw cyn Hanner Cant (peth hurt, on'd ydy?), ond mae hyn wedi newid. Mae gen i gais iddo fo: allech chi plis chwarae "Ffrind Gorau Wedi Marw" a "Morgi Mawr Gwyn"? Diolch ymlaen llaw!

Neges i Swnami: dwi wedi adnabod intro "Mwrdwr ar y Manod", ond wnaethoch chi ddim ei chwarae yn Hanner Cant. Fyddai'n bosibl i chi wneud hynny ddydd Sadwrn?
Dwi'n ffan mawr o'u caneuon, dwi'n hoffi'r ffaith eu bod nhw'n cymysgu cerddoriaeth roc ac electronig yno. Joban dda, bois!

Ac Yr Ods... Wel, Yr Ods ydy Yr Ods. Da mewn bron a phopeth, felly dwi'n eithaf siwr bydd y gynulleidfa (yn cynnwys finnau) yn cael pob hwyl a sbri :)

Oce, felly dyna ni ar hyn o bryd, dwi'n gobeithio am y tywydd da, hwyliau da, cerddoriaeth dda, a mi wela i o leiaf rhan ohonoch chi yn Llanrwst!

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz