wtorek, 11 września 2012

Gwyl Gwydir

Reit, felly ar hyn o bryd dwi'n eistedd o flaen y sgrin, yn gwisgo fy nghrys T newydd Gwyl Gwydir, felly beth am ysgrifennu darnyn bach am honno?

Felly, mae'n rhaid i mi ddweud mai gwyl lwyddiannus arall i mi ei gweld tra yng Nghymru. Mae gan wyliau gerddorol Gymraeg eu hawyrgylch arbennig, wrth weld y cyfan o safbwynt allanol, efallai oherwydd maint o'r grwp sy'n siarad yr Iaith? Roedd pawb yn gyfeillgar, ac wnaeth hynny i mi deimlo'n dda a mwynhau fy hun yn Llanrwst.

Wnaethon ni gyrraedd Llanrwst jest mewn pryd i weld criw 'Heno' yn paratoi i recordio ar gyfer y sioe'r noson honno, a chawson ni sgwrs fach efo Elin Fflur. Wedyn, aethon ni am dro i'r bont ac yn ol, wrth gynllunio tro arall y diwrnod canlynol.

Yn ystod y noson, clywais i fand newydd Gwilym Bowen Rhys (dyma oedd eu hail perfformiad yn unig!), Tecwyn Ifan, Sen Segur a Bob Delyn a'r Ebillion. Roedd pob un ohonyn nhw'n dda! Roedd lleisiau a chaneuon Plu'n swnio'n ysgafn a phleserus iawn, felly: cychwyn da! Wedyn, wnaeth Tecwyn Ifan ganu; cywilydd i mi gyfaddef, ond doeddwn i heb glywed yr un o'i ganeuon cyn hynny! Ond wnes i fwynhau y rheiny a berfformiodd, ac wrth gwrs bydd yn rhaid i mi gyfarwyddo gyda chynnyrch artist mor bwysig! Ar ol hynny, dechreuodd Sen Segur a, diolch byth!, set arbennig o dda a oedd ganddyn nhw (llawer gwell na'r un Hanner Cant), ac mi wnes i fwynhau ac atgoffa fy hun pam rydw i mor hoff o'r band hwn. Achos dwi'n ffan enfawr! Ac ar ol Sen Segur, dechredodd Bob Delyn a'r Ebillion. Ac wel wel wel! Roedden nhw'n wych! Roedd pob un o'u caneuon yn swnio mor dda, ac mi welais i'r mwyafrif o bobl ddawnsio (golygfa fythgofiadwy ;))

Ar ol setiau nos Wener mi aethon ni i'n pabell, ac er oerni wnes i gysgu'n weddol dda (er roedd rhaid i mi gysgu efo fy mhen o dan y garthen blu (duvet)). Yn y bore, aethon ni i Lanrwst am dro fach, ac mi welais yr eglwys (a'r capel yn ei herbyn), a chwpl o lefydd eraill (mi wna i uwchlwytho fy lluniau o uchafbwyntiau'r benwythnos yn y post nesaf.

Ar ol hynny, gwelais bron a phob un o'r artistiaid a bandiau a oedd yn perfformio ddydd Sul. Ac felly, gan nad ydw i'n cofio trefn manwl yr Wyl, gadewch i mi copio'r rhestr o wefal GG:

-Alun Gaffey- Dim ond dwy gan fy mod wedi eu clywed, a doeddwn i ddim yn gyfarwydd efo'i gynnyrch o'r blaen. Ond wnes i fwynhau beth bynnag. Da iawn.

-By The Sea- cerddoriaeth dda iawn! Cyn Gwyl Gwydir ces i gyfle i wrando ar ddwy gan sydd ar gael am ddim ar y We. Dwi'n hoffi synau sy'n debyg i'r hyn eu bod nhw'n creu- ychydig o roc a shoegaze, felly roedd rhaid i mi fwynhau!

-Candelas- roedd y prifleisydd yn ceisio hudo ni i gyd. Yn llwyddiannus :)

-Eilir Pierce- mae o'n ymddwyn mewn ffordd mor chwerthinllyd yn ystod ei berfformiadau ac mae ei ganeuon mor afresymol fel y mae rhaid i mi eu mwynhau, dwi ddim yn gallu helpu fy hun!

-Jakokoyak- roedd Gwenno efo fo, ond dim ond yn y gynulleidfa, roedd hi'n sefyll bron wrth fy ochr i! Ond yn ol at Jakokoyak: roedd ganddo ychydig o anhawsterau technegol (a phroblemau gyda'r offerynnau), ond wnaeth gig dda arall. Ac mae o'n ymddangos yn berson mor neis a chyfeillgar, fel y mae rhaid i un ei licio!

-Mr Huw- dim ond fo, ei gitar a gwneuthurwr rhythm (dwi ddim yn sicr, keyboard cyffredin?), gan ar lwyfan Y Nyth oedd o'n perfformio. Yn dda! Ac efallai mae o'n gallu darllen fy meddwl, gan chwaraeodd y ddwy gan roeddwn eu heisiau :)

-Nebula- wnes i glywed ddwy neu dair can, ac roedden nhw'n eithaf da

-Race Horses- roedden nhw'n hollol brilliant! Wnes i ddim gwrando arnyn nhw tan ddydd Sadwrn (gan fod nhw'n creu yn Saesneg), ond mae eu perfformiad i mi wneud eisiau mwy a mwy a mwy. Roedd popeth yno'n gret, felly bydda i archwilio ar eu cyfansoddiadau (dwi wedi dechrau'n barod!)

-Swnami- perfformiad llawer gwell na Hanner Cant, jest fel Sen Segur. Yn anffodus, ni chwaraeon nhw 'Mwrdwr...' fel roeddwn i'n gobeithio, ond dwi'n credu gallai'r un  yma achosi trafferth i'r prifleisydd rwan, pan mae ei lais wedi newid

-Violas-roeddwn i'n edrych ymlaen at y gig honno, fel dwedais i yn y post diwethaf. Fel dysgais oddi wrth Owain o'r band, dydyn nhw ddim yn arfer chwarae setiau acwstig, heb fand llawn, ond dwi'n credu mai perfformiad arbennig o dda oedd hwnnw. Mae gan Owain arall, y prifleisydd, lais eithaf dramatig, felly roedd caneuon yn swnio'n newydd i mi, ac roeddwn i'n gallu deall mwy o ran geiriau a dehongliadau.

-Y Niwl- cyn GG doeddwn i ddim yn arfer gwrando arnyn nhw- pam ddylwn os nad oes geiriau yn y caneuon? Ac felly cyn eu cyngerdd eisteddais reit ar ochr y llwyfan fel y gallwn gweld y band a'r gynulleidfa. A ches i gymaint o hwyl! Mae eu cerddoriaeth yn fywiog IAWN, ac roedd edrych ar y dorf yn gwenu, neidio a gweiddi yn eithaf doniol!

-Y Pencadlys- yr unig perfformiad o'r holl Wyl nad oeddwn yn mwynhau, roedd o'n swnio ychydig yn chwerthinllyd, efallai bydd fersiynau albwm yn well?

-Yr Ods- fel dywedais o'r blaen, beth bynnag a wnai'r band, bydd cynulleidfa'n mwynhau eu hunian dros ben. Ac mi wnaeth! Penderfynodd y band chwarae eu caneuon hyn, felly roedd pawb (yn cynnwys fi) yn gallu canu efo nhw, a chan bod y cynnyrch yn ysgafn ac optimistig, roedd y gig yma yn bleser pur!

Mi wnes i fethu Plyci ac Ifan Dafydd oherwydd eisiau cwsg, felly ar ol i'r bandiau hynny chwarae, aethon ni i'r sachau cysgu. Ac mi gawson ni cyngerdd bach ychwanegol rhwng 3 a 5 o'r gloch yn y bore, roedd ein cymydogion ar y cae yn canu emynau Cymraeg a chaneuon eraill, yn cynnwys ABBA. Mae'r rhaid i mi ddweud fod lleisiau anhygoel ganddyn nhw! Does gen i ddim syniad pwy ydyn nhw, welais i ddim nhw, ond roedd harmoni rhyngddyn nhw ac roedd eu lleisiau gwahanol yn ffitio ei gilydd mor dda... Dylech chi feddwl am yrfa proffesiynol, gyfeillion :)

Y diwrnod canlynol, wnaethon ni helpu gyda throi maes Gwyl Gwydir yn ol i Glwb Rygbi Maes Conwy, ac ar ol hynny aethon ni yn ol i Aberystwyth.

Ar y cyfan, roedd yr Wyl yn ddigwyddiad anhygoel a bythgofiadwy, wnes i fwynhau fy hun drwy'r amser, ac os bosib, hoffwn i ymweld a Llanrwst unwaith eto yn y dyfodol!

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz