wtorek, 25 września 2012

Be dwi'n cofio o Gymru? rhan 1

- bysiau a'u gyrrwyr - o ran y bysiau: roedden nhw wastad yn hwyr neu ddim mewn gwasaneth. Yn gyffredinnol, roedd y fath beth yn eithaf doniol, yn enwedig pan oedden ni wedi blino llwyr, ac roedd fel trydydd bws allan o wasanaeth. Ac o ran eu gyrrwyr? Maen nhw'n athrylithoedd y ffyrdd! Doeddwn i ddim yn disgwyl y gall un yrru fel pobl rasio ar ffyrdd mor droellog! Pob parch iddyn nhw am hynny! Hefyd, peth anarferol i mi, roedden ni'n cyfarchu ein gilydd bob tro wrth mynd i mewn ac allan, dydyn ni ddim yn gwneud hynny yng Ngwlad Pwyl...

- tywydd gwallgof - gwnaeth y tywydd i finnau deimlo rhyw fath o annwyd ysgafn drwy'r amser, roedd yn annisgwyl codi yn y bore, yn gweld cymylau a theimlo oerni, wedyn gwisgo sawl haen o ddillad, ac wedyn gorfod eu cludo nhw i gyd yn y prynhawn oherwydd tymheredd uchel a llawer o heulwen (neu y ffordd arall rownd). Mae gen i luniau sy'n atgoffa o un o ddiwrnod fel yma- gweodd pry cop gyda glaw arnyn nhw yn y bore a'r wybren glir a machlud gogoneddus yn y noswaith.

- gwyrddni - sonias am hwnnw o'r blaen, dwi'n gwybod, ond gwyrddni ydy un o'm prif cofion o gymru: bryniau gwyrdd ar y ffordd, llawer ohono ym mhobman. Ces i gyfle i ymlacio, gan fy mod yn hoff iawn iawn o natur. Roeddwn i'n gallu anadlu heb broblemau wrth fynd am nifer o droeon - pleser pur!

- dim pla o fosgitos - bron dim mogitos yng Nghymru, mi welais fel tri ohonyn nhw yn fy ystafell yn ystod tri mis! Mae llawer gormod ohonyn nhw yng Ngwlad Pwyl, felly dwi'n cael fy mrathu nifer o weithiau, sy'n hollol annifyr.

- distawrwydd - dwi'n byw mewn dinas fawr yng Ngwlad Pwyl (bron 600 mil o bobl), felly rwan dwi'n clywed ceir yn mynd drwy'r stryd tu allan i'm ty i, a phob math o synau byddarol. 'Nol yng Nghymru roeddwn i'n byw yn Aberystwyth, felly tref braidd, ac mewn gwirionedd ychydig tu hwnt o Aberystwyth. Ac roedd ein hystafell ni'n wynebu gardd. Gallech ddychmygu gwahaniaeth, on'd gallech?

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz