wtorek, 31 lipca 2012

Ar ol mis

Wel, dyna ni, treuliais fis diwethaf yng Nghymru. Ydy popeth fel roeddwn yn ei ddisgwyl? Nac ydy. Ydwi'n hapus beth bynnag? Ydw i'n wir! Mae hi fel gwnaeth pob dydd imi gadarnhau fy nghariad at Gymru a'r Gymraeg. Mae lle lle rydw i'n byw yn arbennig o brydferth wrth gymharu a'm lle gwreiddiol, mae pobl yn gyfeillgar, mae'r Gymraeg go iawn ar strydoedd...

Iawn, efallai fy mod i'n or-ddweud wrth ystyried y pwnc olaf, gan dim digon o'r iaith fy mod yn ei chlywed, ond imi, y dysgwraig, peth hollol arbennig ydy clywed a'm clustiau fy hun bod rhywun yn defnyddio'r iaith fy mod yn ei dysgu yn y brifysgol mewn sefyllfaoedd hollol gyffredin!

Peth arall sy'n anhygoel imi ydy'r ffaith bod PAWB yn nabod PAWB, yn enwedig tu mewn cymuned y Cymry Cymraeg. Felly, maent, hyd yn oed, yn adnabod ni (o'r teledu!), sydd yn gwneud imi deimlo'n rhan o'r cymuned yma :)) a gofyn am ddweud rhwybeth i'm hathrawon/ athrawon a fu. Mae'r byd Cymraeg yn fyd bach, felly, yn hollol anghredadwy imi, dwi'n chwarae gwyddbwyll yn erbyn mab awdur enwog Cymru, neu mae awdures enwog Cymru yn gwybod fy mod yn ceisio cyfieithu ei llyfr...

Ac efallai dylwn son a'm gwaith hefyd. Mae'n hyfryd! Dwi'n hoff o'r bobl sy'n gweithio fan hyn, maent yn barod i'n helpu ni, yn neis a chyfeillgar. A dwi'n hoffi ysgrifnnu yn y Gymraeg, ydw i'n wir! Dwi'n wir gobeithio nad ydy fy 'erthyglau' yn rhy ddrwg (gan cawson nhw eu cyhoeddu), ac y bydd gen i gyfle i sgwennu mwy am amrywiaeth o bynciau.

Tybed beth sydd o siom mwyaf imi hyd yn hyn. Wel, wythnos a hanner yn ol dywedwn mai tywydd ydy'r siom enfawr, ond nawr mae'n llawer well, dim ond heddiw sy'n eithaf drwg, roedd yn heulog yn ddiweddar!
A'r iaith... Dim digon ohoni, wrth gwrs, ond dwi'n llawn gobeithion!

niedziela, 22 lipca 2012

Diwrnod braf arall yn Aberystwyth

Pedwar dydd yn yr wythnos hon sydd wedi bod yn braf iawn, ond heddiw oedd yn anhygoel! Dim cymylau (o gwbl!), haul drwy'r amser, tymheredd uchel (i safonau Cymru, wrth gwrs :))...

Felly, ar ol inni fynd i'r offeren (gyda un emyn ac un darlleniad yn y Gymraeg), aethom i'r promenad, ac wedyn, ar ol cinio, roedd yn rhaid inni fynd i lan y mor ar yr ail dro, roedd y tytwydd yn orwych! Tyniais ychydig o luniau, felly dyma nhw: glan mor yn Aberystwyth a'r hon yn yr haul!














piątek, 20 lipca 2012

Lluniau

Iawn, dyma ni: lluniau o'r Llyfrgell (tynnwyd gan rywun arall) fan yma

Ac efallai byddech yn hoffi gweld fy lluniau Hanner Cant hefyd, dwi wedi creu albwm ar fy ngwefan Gweplyfr

(Dwi'n gwybod nid ydy hynny o gyflwr da, ond o leiaf bydd gen i rywbeth bach i gofio'r dyddiau hyn :))

Mwynhewch!

niedziela, 15 lipca 2012

Am Mrs. Dafydd & Hanner Cant (yn fyr, fyr iawn)

Iawn, doeddwn ddim am ysgrifennu cyn i bethau orffen, ond rwan, ar ol hynny, gadewch imi ddweud ychydig am y pethau sydd yn y teitl.

Felly, ces i gyfle i fynd i gyfarfod a Fflur Dafydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd hi'n arweinydd yn y daith fach o gwmpas y Llyfrgell, ac roedd hi'n siarad am o le daeth ei syniadau am "Y Llyfrgell", am ei phrofiadau a'r lle ayyb. Roedd popeth yn ddiddorol iawn, a pherson mor neis a chyfeillgar ydy Fflur Dafydd! Roeddwn yn mwynhau fy hun yn fawr, roedd rhai o bethau'n hollol annisgwyl imi! Gobeithio bydd yna gyfle imi fynd ar y fath daith eto, rywbryd yn y dyfodol. A diolch yn fawr am y cyfarfod, Mrs. Dafydd!

Ac yna, Hanner Cant! Profiad BYTHGOFIADWY! Gwelais gymaint o fandiau ac artistiaid fy mod mor hoff ohonynt, cwrddais a phobl newydd, teimlais ysbryd o undeb a Chymry a oedd yno, roedd popeth mor anhygoel! Efallai jest rhoddaf uchafbwyntiau y ddau ddiwrnod, gan dwi heb feddwl am y cyfan eto, mae cyffro'n rhy ffres :)

Felly, ynglyn a'r noson gyntaf:

- Sen Segur- er nad oeddwn ar eu holl gig, clywais tua phedair can. Dwi'n teimlo'n eithaf siomedig, cydnabyddais dim ond un ohonynt, ond roedd y gweddill yn eithaf diddorol.

- Y Bandana- gig gorau y noson yn fy marn i. Llawer o egni positif, aelodau y band yn siarad a'r gynulleidfa a chaneuon yn neis... Pob hwyl :)

- Meic Stevens- ar ol gweld ymateb y dyrfa... Gwych!

- Yr Ods- pob hwyl a sbri, roeddwn yn gwybod caneuon i gyd ac yn hoffi'r gan olaf, yr un newydd

- Mr Huw- doeddwn ddim mor hoff o'i ganeuon cyn Hanner Cant, ond maent yn braf, felly bydd yn rhaid imi wrando ar fwy

A'r ail ddiwrnod (yn nhrefn yr wyddor):

- Yr Angen- dwi'n hoffi rhannau offerynnol o'u caneuon! Gig da, er nad oeddent yn rhy hoff o siarad a'r dorf

- Y Diarth- peth rhyfedd, ond roeddwn yn mwynhau! Pam? Does gen i ddim syniad, dwi ddim yn gwrando ar y fath gerddoriaeth yn rheolaidd...

- Eilir Pierce- doeddwn ddim yn gallu deall pam tagiwyd fel 'da' gan rywun, ond roedd yn dda iawn iawn iawn yn ystod Hanner Cant! Er bod ei gerddoriaeth yn RHYFEDD, roedd pawb (yn cynnwys fi) yn mwynhau! Ac roedd o'n taflu ei CDs atom!

- Fflur Dafydd a'r Barf- does dim dwywaith am hynny, GIG GORAU'R HOLL DDIGWYDDIAD. Roedd fersiynau acwstig caneuon yn swnio'n wych, ei llais yn anhygoel, yn glir a chryf, ac roedd ganddi charisma. Llongyfarchiadau a phob lwc i chi, Mrs. Dafydd :)

- Jamie Bevan a'r Gweddillion- neis iawn iawn iawn, doeddwn ddim yn disgwyl!

- Swnami- dwi'n hoff o'r band hwn, ond dwi ddim yn sicr am y gig, bydd yn rhaid imi gael mwy o amser i feddwl am hynny.

- The Gentle Good- set syfrdanol wrth ystyried un dyn a'i gitar yn unig!

- Yucatan- yr un peth a Swnami.

- Bryn Fon a'r Band- roedd cynulleidfa'n cael hwyl ENFAWR, ond roeddwn yn gwybod un gan yn unig, felly doeddwn ddim yn gallu cymryd rhan. Ond roedd y gweddill yn gret :)

- Cowbois Rhos Botwnnog- 'Ffarwel i Langyfelach Lon' sy'n dweud popeth. Can y digwyddiad yn fy marn i.

- Elin Fflur- trueni chanodd hi ddim caneuon mwy bywiog, ond mae ganddi LAIS ardderchog, felly swniodd hyd yn oed rhai mwy telynelog fel Angel yn fythgofiadwy... Ac roedd hi'n ddoniol rhwng un gan a llall (unrhyw un sy'n cofio iddi siarad am y tywydd? :))

- Gwibdaith Hen Fran- roeddent yn chwarae a Dafydd Iwan! A gwnaeth canu Yma O Hyd a'r gynulleidfa imi stryglo rhag ddagrau. Anhygoel...

- Lleuwen- mae'n rhaid imi gyfaddef, doeddwn ddim yn gwybod ei chaneuon. A jaman imi o achos hynny! Llais da iawn, caneuon da iawn... Does dim angen am dim byd arall!

- Mattoidz- gwnaeth sefyll ger uchelseinydd imi troi'n fyddar (bron), ond roedd caneuon yn ddiddorol (i ddweud y lleiaf!)

- Llwybr Llaethog- llawer gormod o swn a lleisiau rhyfedd, fwynheuais ddim (yn anffodus, gan fy mod yn eithaf hoff o'u caneuon yn albymau). Ond efallai roeddwn rhy gysglyd i fwynhau'n iawn? Roedden nhw'n chwarae'n olaf...

Iawn, dyma fy adolygiau byr, dwi'n gobeithio i chi fwynhau popeth cymaint a fi!

niedziela, 8 lipca 2012

Aberaeron

Roeddem yn Aberaeron heddiw (ar ol mynd i'r eglwys yn y bore) o achos ffair pysgod a ddigwyddodd fan hyn. Roedd yna eithaf llawer i'w weld, mewn gwirionedd!

Y peth pwysicaf am y digwyddiad oedd y ffaith i nifer o bobl siarad Cymraeg! Ar ol imi glywed dim ond ychydig, hynny a roddwyd llawer o foddhad i'm clustiau! Ond beth am y ffair ei hunan?

Yn bennaf, roedd llawer o stondinau a bwydydd amrywiol ar gael i ymwelwyr. Ac felly: pysgod ffres, wrth gwrs, a baratowyd yn y fan a'r lle, a bywdydd eraill a wnelo a'r mor. Hefyd, gallwn weld i'r bwyd traddodiadol Cymraeg fod yn eithaf poblogaidd, gyda chiwiau o bobl tu flaen i stondinau a'r fath fwyd. Felly, yr unig peth gallem ei wneud oedd prynu cacenau Cymreig! Maent yn aros amdanom ar hyn o bryd, yn barodrwydd inni eu bwyta :) Dwi'n difaru'r ffaith ni phrynnais hufen ia heddiw, roeddent yn edrych yn rhy flasus!

Ac beth arall? Wel, roedd rhai yn 'siarad pysgod', sef trafod ffyrdd i baratoi bwyd y mor, ac roedd yna grwp o bobl a diddordeb mewn crancod (cawsom daflenni hyd yn oed!).
Ar wahan i hynny, roedd yna grwp fach o blant a oedd yn dawnsio dawnsiau traddodiadol, roeddent yn eithaf da!

Ar ol inni weld y ffair, aethom i'r traeth, roedd yn braf (er gwaethaf cymylau). Ydw i wedi son am y ffaith fy mod yn hoff iawn iawn iawn o foroedd i gyd? Dwi'n hoffi syniau, aroglau, awel y mor... popeth! Dwi'n credu gallwn yn byw ar lan y mor, lle bynnag yn y byd, ond rhywle lle gallwn ymweld a'r traith bob dydd- peth delfrydol!

Iawn, diolch am ddarllen, gobeithio eich bod wedi cael diwrnod braf heddiw hefyd, ac y bydd yfory yn neis i minnau a chithau!

Diwrnod perffaith

Mae'n swyddogol: diwrnod gorau a mwyaf prydferth fy aros yn Aberystwyth oedd hwn, felly, wrth gwrs, roedd yn rhaid imi gymryd pob mantais ohono a gwnes i beth fy mod i'n hoff iawn iawn ohono, sef mynd i weld yr eigion. Doedd hi ddim yn bwrw glaw o gwbl yn ystod y dydd (a nos), felly roedd yn bosibl imi eistedd yn yr adfeilion ar lan y mor a darllen am ychydig o amser.

Wedyn, es i am dro ar hyd y promenad (a gwrando ar gerddoriaeth o rywle yn Ne America), ac ar ol hynny des i o hyd i Siop y Pethe. Mewn gwirionedd, roeddwn am ymweld ag ef yn gynt heddiw, ond es i ychydig ar goll, felly digwyddodd yr holl bethau fy modd wedi'u ysgrifennu amdanynt cyn imi gyrraedd y lle. Pam dylwn fyn yno? O achos Hanner Cant! Mae gen i fy nhocyn fy hyn rwan, a dwi'n edrych ymlaen i weld (a chlywed) pob un o artistiaid a bandiau oddi y rhestr.

Ar ol dod nol adref, roedd yn rhaid inni gasglu un o'm ffrindiau o'r tren. Aethom i'r lle a fyddai ef a'm ffrindiau eraill yn aros ynddo, ac wedyn i'r eigion unwaith eto. Wel, diffododd gwynt yn y noswaith, ac roedd dal yn gynnes (a newydd i'r haul fachlud). Ar ol i un o'm ffrindiau fynd, arhosais gyda'r ail ffrind. Roedd yn anhygoel eistedd yn y tywyllwch a sgwrsio. Yn anffodus, roedd yn rhaid inni orffen yn fuan, ac es i adref. Mae Aberystwyth heb bron a neb ar strydoedd pan ma mor hwyr, dwi'n dyfalu bod eu naill ai cysgu neu eistedd yn y dafarn. Mwy na phosib, yr ail opsiwn, gan gwelais eithaf llawer o bobl a fyddai'n gadael tafarnau a tacsi's ar ai ffordd le bydd angen eu defnyddio).

czwartek, 5 lipca 2012

Sylwadau ychwanegol

Dechreuais feddwl fy mod heb son am ddoe o gwbl, ac roedd bryd yma yn arbennig o hwyl hefyd! Wel, yn y bon, roedd gennym ddiwrnod rhydd, felly penderfynnon beidio a gwneud dim byd yn ystod y dydd. Arhosom gartref ac roeddem yn ymlacio.

Ond roedd noson (a rhan fach o nos) yn hwylius iawn: cawsom wahoddiad i'r Llew Du gan ein hathrawes Gymraeg, ac ar ol eistedd fan yma am ychydig a siarad (trodd allan bod un ferch o Wlad Pwyl sy'n siarad Yr Iaith yn gweithio yno; ac roedd hi yn y Llew Du neithiwr, pa cyd-digwyddiad! Cawsom ni sgwrs braf, ond byr iawn, roedd rhaid iddi weithio, a rydym yn mynd i'r Llew yn fuan, dydd Sadwrn, efallai), aethom am dro i'r eigion. Roedd tywydd mor neis, ac roedd y machlud yn ardderchog: wnaeth i'm ffrind dynnu llawer o luniau. Ac, o'r diwedd, roedd gennym gyfle siarad Cymraeg ar y stryd, gobeithio gallwn glywed mwy o'r Iaith yn ystod misoedd canlynol!

Trip fach i'r Llyfrgell

Foneddigion a boneddigesau, roeddwn yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf fy mywyd heddiw. Diolch byth dywedwyd wrth fy ffrind am lwybr arall (dros bryniau Aberystwyth unwaith eto :)). Aethom heibio Canolfan Chwaraeon, ac oherwydd nad oeddem yn nabod y lle, roedd yn rhaid inni gerdded heibio adeiladau'r brifysgol (dwi'n credu) i gyd, ac wedyn troi nol at y Llyfrgell. Ond edrychodd adeilad y Llyfrgell mor grand, wir i chi, ac roeddwn mor falch imi fod yno!

Diolch i chi, Gymry, am beidio a gwneud trafferth pan bydd rhywun allan o'r wlad eisiau dod yn aelod, doedd dim rhaid imi wneud dim byd ond cwblhau rhyw fath o holiadur, a thynnwyd llun ohonof. Rwan, mae gen i gerdyn newydd sbon (mor falch ohono!) a gallaf gael unrhyw beth rydw i ei eisiau (tu fen y Llyfrgell, wrth gwrs!).

Ac mae cymaint i'w weld yn y LlGC ar wahan i'w llyfrau, wrth gwrs, mae darn mawr o hanes a diwylliant Cymru wedi'i storio fan yma, dwi wedi clywed sawl can protest oddi peiriant cerddorol (beth bynnag ydy ei enw o), megis Dwr gan Huw Jones ac International Velvet gan Catatonia (ai can brotest ydy honno?!). Hefyd, dwi wedi gweld ychydig o bethau a wnelo ag Angharad Tomos (fy hoff awdures Cymru), bydd cyfarfod a hi yn y Llyfrgell ar 20fed o fis Gorffenaf, efallai byddai modd imi fynd? Hoffwn!

wtorek, 3 lipca 2012

Cymru, tri diwrnod cyntaf

Fel rydych chi i gyd yn gwybod yn barod, rydw i yng Nghymru, yn Aberystwyth. Cyrhaeddais y lle ddydd Sadwrn, ond doedd gen i ddim amser i ysgrifennu unrhyw beth, roedd cymaint i’w wneud! Felly, i ddechrau, mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn gorhapus imi allu dod yma. Ers imi ddechrau fy astudiaethau, roedd Cymru yn fy ngalw i, ac rŵan, o’r diwedd, dwi wedi ateb:)

Roedd bore Sadwrn yn boeth dros ben llestri ym Mhoznan, felly efallai roeddwn yn disgwyl yr un peth yn Lloegr ac wedyn yng Nghymru? Pwy a ŵyr? Ond na, er nad oedd y tywydd yn ddelfrydol, doedd dim yn bwrw glaw (bron o gwbl, dim ond cawodau byr(ion)) ac roedd yn eithaf cynnes. Ar ôl gadael maes awyr John Lennon, aethom i ‘r Orsaf, cawsom cinio blasus iawn (diolch i’n hôl-athro Gwyddeleg) ac wedyn cawsom drên (wel, tri thrên) i Aberystwyth. Peth annisgwyl, doedd yna ddim o bobl ar strydoedd (bron o gwbl) Pam, dwi’n gofyn? Tybed beth byddai pobl yn ei wneud nos Sadwrn yn Aberystwyth? Ac o achos hynny es innau a’m ffrind ar goll heb un berson i ofyn wrtho/i. Yn ffodus inni, llwyddon ni ddarllen ein map yn effeithiol a daethom o hyd i’n lle. Mae gan ein host wybodaeth sylfaenol y Gymraeg, ac mae ei gariad yn dod o’r Gogledd, felly mae hi yn siarad. Ond ar ddechrau doedd hi ddim yn rhy fodlon i siarad. Rŵan, mae pethau’n well, gan cychwynnodd dechrau sgyrsiau â ni yn ei hiaith hi (datblygiad pwysig!)

Mae’n eithaf drist nad ydw i’n gallu clywed llawer o’r Gymraeg ar strydoedd (er dywedwyd wrthyf bod rhan sylweddol o bobl leol yn siarad) Yn ffodus, byddaf yn clywed mwy yn swyddfa fy ngwaith (dwi’n hoff ohono a phobl sy’n gweithio fan yma, wir i chi!) A dwi’n gwerthfawrogi’r ffaith byddwn yn gallu ysgrifennu mwy nag arfer, hwyl a sbri ydy hynny! Y peth nesaf ydy’r ffaith fy mod wedi cael sawl albwm imi wrando arnynt, dwi’n arbennig o hapus oherwydd albymau Fflur Dafydd a’i band, a dwi’n edrych ymlaen i’w clywedpob un ohonynt!

Beth arall? Wel, yn gyntaf hoffwn gael tywydd gwell (nid ydy hi’n rhy ddrwg, ond efallai byddai mwy o haul yn syniad da) a’r hyn a addawyd imi gan Erasmws cas. Fel arall, mae’n berffaith. Diolch yn fawr!