niedziela, 15 lipca 2012

Am Mrs. Dafydd & Hanner Cant (yn fyr, fyr iawn)

Iawn, doeddwn ddim am ysgrifennu cyn i bethau orffen, ond rwan, ar ol hynny, gadewch imi ddweud ychydig am y pethau sydd yn y teitl.

Felly, ces i gyfle i fynd i gyfarfod a Fflur Dafydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd hi'n arweinydd yn y daith fach o gwmpas y Llyfrgell, ac roedd hi'n siarad am o le daeth ei syniadau am "Y Llyfrgell", am ei phrofiadau a'r lle ayyb. Roedd popeth yn ddiddorol iawn, a pherson mor neis a chyfeillgar ydy Fflur Dafydd! Roeddwn yn mwynhau fy hun yn fawr, roedd rhai o bethau'n hollol annisgwyl imi! Gobeithio bydd yna gyfle imi fynd ar y fath daith eto, rywbryd yn y dyfodol. A diolch yn fawr am y cyfarfod, Mrs. Dafydd!

Ac yna, Hanner Cant! Profiad BYTHGOFIADWY! Gwelais gymaint o fandiau ac artistiaid fy mod mor hoff ohonynt, cwrddais a phobl newydd, teimlais ysbryd o undeb a Chymry a oedd yno, roedd popeth mor anhygoel! Efallai jest rhoddaf uchafbwyntiau y ddau ddiwrnod, gan dwi heb feddwl am y cyfan eto, mae cyffro'n rhy ffres :)

Felly, ynglyn a'r noson gyntaf:

- Sen Segur- er nad oeddwn ar eu holl gig, clywais tua phedair can. Dwi'n teimlo'n eithaf siomedig, cydnabyddais dim ond un ohonynt, ond roedd y gweddill yn eithaf diddorol.

- Y Bandana- gig gorau y noson yn fy marn i. Llawer o egni positif, aelodau y band yn siarad a'r gynulleidfa a chaneuon yn neis... Pob hwyl :)

- Meic Stevens- ar ol gweld ymateb y dyrfa... Gwych!

- Yr Ods- pob hwyl a sbri, roeddwn yn gwybod caneuon i gyd ac yn hoffi'r gan olaf, yr un newydd

- Mr Huw- doeddwn ddim mor hoff o'i ganeuon cyn Hanner Cant, ond maent yn braf, felly bydd yn rhaid imi wrando ar fwy

A'r ail ddiwrnod (yn nhrefn yr wyddor):

- Yr Angen- dwi'n hoffi rhannau offerynnol o'u caneuon! Gig da, er nad oeddent yn rhy hoff o siarad a'r dorf

- Y Diarth- peth rhyfedd, ond roeddwn yn mwynhau! Pam? Does gen i ddim syniad, dwi ddim yn gwrando ar y fath gerddoriaeth yn rheolaidd...

- Eilir Pierce- doeddwn ddim yn gallu deall pam tagiwyd fel 'da' gan rywun, ond roedd yn dda iawn iawn iawn yn ystod Hanner Cant! Er bod ei gerddoriaeth yn RHYFEDD, roedd pawb (yn cynnwys fi) yn mwynhau! Ac roedd o'n taflu ei CDs atom!

- Fflur Dafydd a'r Barf- does dim dwywaith am hynny, GIG GORAU'R HOLL DDIGWYDDIAD. Roedd fersiynau acwstig caneuon yn swnio'n wych, ei llais yn anhygoel, yn glir a chryf, ac roedd ganddi charisma. Llongyfarchiadau a phob lwc i chi, Mrs. Dafydd :)

- Jamie Bevan a'r Gweddillion- neis iawn iawn iawn, doeddwn ddim yn disgwyl!

- Swnami- dwi'n hoff o'r band hwn, ond dwi ddim yn sicr am y gig, bydd yn rhaid imi gael mwy o amser i feddwl am hynny.

- The Gentle Good- set syfrdanol wrth ystyried un dyn a'i gitar yn unig!

- Yucatan- yr un peth a Swnami.

- Bryn Fon a'r Band- roedd cynulleidfa'n cael hwyl ENFAWR, ond roeddwn yn gwybod un gan yn unig, felly doeddwn ddim yn gallu cymryd rhan. Ond roedd y gweddill yn gret :)

- Cowbois Rhos Botwnnog- 'Ffarwel i Langyfelach Lon' sy'n dweud popeth. Can y digwyddiad yn fy marn i.

- Elin Fflur- trueni chanodd hi ddim caneuon mwy bywiog, ond mae ganddi LAIS ardderchog, felly swniodd hyd yn oed rhai mwy telynelog fel Angel yn fythgofiadwy... Ac roedd hi'n ddoniol rhwng un gan a llall (unrhyw un sy'n cofio iddi siarad am y tywydd? :))

- Gwibdaith Hen Fran- roeddent yn chwarae a Dafydd Iwan! A gwnaeth canu Yma O Hyd a'r gynulleidfa imi stryglo rhag ddagrau. Anhygoel...

- Lleuwen- mae'n rhaid imi gyfaddef, doeddwn ddim yn gwybod ei chaneuon. A jaman imi o achos hynny! Llais da iawn, caneuon da iawn... Does dim angen am dim byd arall!

- Mattoidz- gwnaeth sefyll ger uchelseinydd imi troi'n fyddar (bron), ond roedd caneuon yn ddiddorol (i ddweud y lleiaf!)

- Llwybr Llaethog- llawer gormod o swn a lleisiau rhyfedd, fwynheuais ddim (yn anffodus, gan fy mod yn eithaf hoff o'u caneuon yn albymau). Ond efallai roeddwn rhy gysglyd i fwynhau'n iawn? Roedden nhw'n chwarae'n olaf...

Iawn, dyma fy adolygiau byr, dwi'n gobeithio i chi fwynhau popeth cymaint a fi!

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz