niedziela, 8 lipca 2012

Aberaeron

Roeddem yn Aberaeron heddiw (ar ol mynd i'r eglwys yn y bore) o achos ffair pysgod a ddigwyddodd fan hyn. Roedd yna eithaf llawer i'w weld, mewn gwirionedd!

Y peth pwysicaf am y digwyddiad oedd y ffaith i nifer o bobl siarad Cymraeg! Ar ol imi glywed dim ond ychydig, hynny a roddwyd llawer o foddhad i'm clustiau! Ond beth am y ffair ei hunan?

Yn bennaf, roedd llawer o stondinau a bwydydd amrywiol ar gael i ymwelwyr. Ac felly: pysgod ffres, wrth gwrs, a baratowyd yn y fan a'r lle, a bywdydd eraill a wnelo a'r mor. Hefyd, gallwn weld i'r bwyd traddodiadol Cymraeg fod yn eithaf poblogaidd, gyda chiwiau o bobl tu flaen i stondinau a'r fath fwyd. Felly, yr unig peth gallem ei wneud oedd prynu cacenau Cymreig! Maent yn aros amdanom ar hyn o bryd, yn barodrwydd inni eu bwyta :) Dwi'n difaru'r ffaith ni phrynnais hufen ia heddiw, roeddent yn edrych yn rhy flasus!

Ac beth arall? Wel, roedd rhai yn 'siarad pysgod', sef trafod ffyrdd i baratoi bwyd y mor, ac roedd yna grwp o bobl a diddordeb mewn crancod (cawsom daflenni hyd yn oed!).
Ar wahan i hynny, roedd yna grwp fach o blant a oedd yn dawnsio dawnsiau traddodiadol, roeddent yn eithaf da!

Ar ol inni weld y ffair, aethom i'r traeth, roedd yn braf (er gwaethaf cymylau). Ydw i wedi son am y ffaith fy mod yn hoff iawn iawn iawn o foroedd i gyd? Dwi'n hoffi syniau, aroglau, awel y mor... popeth! Dwi'n credu gallwn yn byw ar lan y mor, lle bynnag yn y byd, ond rhywle lle gallwn ymweld a'r traith bob dydd- peth delfrydol!

Iawn, diolch am ddarllen, gobeithio eich bod wedi cael diwrnod braf heddiw hefyd, ac y bydd yfory yn neis i minnau a chithau!

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz