piątek, 28 grudnia 2012

Y Gwyliau

Felly, mae'r Nadolig, gwyl bertaf y flwyddyn yn fy marn i, wedi dod i ben. Dwi'n hapus, gan trodd   allan mai Nadolig orau ers sawl blwydd oedd y 'Dolig honno. Treulais amser braf efo fy nheulu, tu allan fy nhy, a chael cyfle i fwrw'm blinder.

Os nad ydych yn gwybod yn barod, mae pobl yng Ngwlad Pwyl yn cael swper Nadolig arbennig ar noswaith 24ain o Ragfyr. Mae teuluoedd yn ymgasglu o gwmpas un bwrdd (yn ol traddodiad - ar ol gweld seren gyntaf yn y nefoedd), yn rhannu waffer Nadolig gyda phawb, wrth roi dymuniadau iddynt, ac wedyn bwyta. Mae traddodiad cryf yn dweud bod rhaid yna fod deuddeg pryd o fwyd, ac mae'r rhai mwyaf adnabyddus yn cynnwys pysgod gwahanol fel cerpyn a phennog. Hefyd, rydyn yn cael er enghraifft cawl betys, twmplenni gyda bresych a madarch a phasta gyda phabi, mel a chneuon. Mewn theori dydyn ni ddim i fwyta cig yn ystod yr holl ddiwrnod, a pheth arall, dylen ni flasu pob un o brydau o fwyd sydd ar y bwrdd. Ar ol bwyta'r swper, mae pobl yn tueddu cael melysfwyd, yn amlaf cacen gaws, cacen babi (poppy-seed cake) neu dorth sinsir. Felly, mae pawb yn bwyta, siarad efo'i gilydd, ac weithiau canu carolau neu ddarllen dyfyniadau o'r Beibl. Yn y nos (hanner nos neu ynghynt), mae rhai yn mynd i pasterka, sef offeren arbenig sy'n dathlu genedigaeth Iesu Grist. Es innau i offeren ar ddeg o'r gloch yn y nos, efo fy nhaid a nain, fy mam a chwaer, a fy ewythr a modryb (y ddau a ddaeth i ymweld a ni ar ol y swper)

25ain o Ragfyr oedd diwrnod pan aethom i Śrem, tref fychan i'r dde i Boznań, er mwyn ymweld a  gweddill fy nheulu (modryb arall a'i mab). Wnaeth fy nghefndir wsigo gwisg Niclas Sant, ac roedd hynny'n ddoniol, gan ei fod bach yn esgyrnog, felly roedd rhaid iddo ychwanegu clustog fel fol Niclas :)
Canlyniadau'r diwrnod: mwy o fwyta a siarad, a llawer o chwarae gemau cyfrifiadur. Yn y noswaith roedd y tywydd yn berffaith ar gyfer tro bach (+7 gradd Celciws!), roedd y dref yn dawel a gwag, dim ond ninnau'n crwydro o gwmpas. Ac wedyn, fe'n gyrrodd fy nhaid yn ol i Boznań - fe'm atgoffodd y daith fach yma o Gymru, a dychwelyd o Bont yn ystod Hanner Cant: dim goleuadau, dim ond gwynder stripiau ar y ffordd a thywyllwch - teimlad braf iawn, roeddwn yn difaru nad oeddwn yno ar ben fy hun.

Yn ol ym Mhoznań, roedd hi'n rhy hwyr i fynd adref, felly arhosais yn fflat fy nhaid a nain. Roedd y diwrnod nesaf, 26ain o Ragfyr yn ddiwrnod mwyaf diog o'r dri, wnaethon ni ddim ond eistedd a bwyta (!)

Ar y cyfan, amser teulu a gwneud dim byd oedd y Nadolig eleni, ac ar ol yr holl fwyta bydd rhaid i mi golli llawer o bwysau ychwanegol ;)

Cwpl o luniau o gyfnod y Dolig a'r dyddiau cynt ym mis Rhagfyr (pan oedd eira ym Mhoznań):















3 komentarze:

  1. Blog gwych, blwyddyn newydd dda i ti!

    OdpowiedzUsuń
  2. Diolch o galon, yr un peth i tithau, gobeithio cei di flwyddyn dda a llwyddiannus!

    OdpowiedzUsuń
  3. 36 year-old Data Coordiator Cami Viollet, hailing from Schomberg enjoys watching movies like "Rise & Fall of ECW, The" and Taxidermy. Took a trip to Historic Centre of Mexico City and Xochimilco and drives a Sable. Widok na strone wydawcy

    OdpowiedzUsuń