wtorek, 4 grudnia 2012

Bach o gerddoriaeth

Roeddwn yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg (neu Gymreig) am dibyn bach o amser erbyn hyn, felly meddyliais byddai'n neis cael bach o drefn arni, ac o ganlyniad dwi wedi gwneud rhestr o'm hoff ganeuon Cymreig. Dyma beth trodd allan i mi:


1. Fflur Dafydd – Ar ôl heddi’: heb os, dyma fy hoff gân Gymreig am byth! Dwi'n cofio i mi ddysgu ei geiriau ar gof a phoenydio fy nheulu wrth ei chanu drosodd a throsodd!


2. Elin Fflur – Symud Ymlaen: mewn gwirionedd, nid honno a oedd fy hoff gân gan Elin Fflur, ond fel y daeth amser rhagddo, dechreuais ddwli arni. A dwi mor hoff o'r rhan offerynnol ar y diwedd!


3. Cowbois Rhos Botwnnog – Ffarwel i Langyfelach Lon: cân mwyaf anhygoel y band, sy'n fy syfrdanu bob tro byddaf ei chlywed. Mae'n hir, ond dwi ddim yn medru teimlo wyth munud fel wyth munud sydd wedi pasio ar ôl i'r gân orffen (ydy hwnna'n gwneud synnwyr o gwbl?)


4. Texas Radio Band – Swynol: mi glywais y gân hon yn ystod un o wersi Cymraeg llynedd. Doeddwn i ddim wedi ei chlywed o'r blaen, ond does dim rhyfedd pam bod ei theitl fel y mae, mae hi wedi fy swyno yn y fan a'r lle!

 
5. Sen Segur – Oswald: dwi'n hoffi meddwl bod hi'n siwtio fy mywyd yn berffaith, mae ei geiriau yn apelio ataf fi'n isymwybodol, a dwi'n teimlo'r 'bond' arbennig efo'r dyn o'r gân

 
6. Violas – Gwymon: "Sea Shells" oedd y gân gyntaf i mi ei chlywed gan Violas, a thynnodd hi fy sylw mewn eiliad braidd. Ac wedyn, yna ddaeth "Gwymon" (gyda'r un canlyniad), a daeth Violas yn fy hoff fand Cymreig. Jest fel 'ma.


7. Yr Ods – Fel Hyn Am Byth: dwi'n ei hoffi cymaint oherwydd bod hi mor gadarnhaol, a fedraf ddim ond canu ymlaen efo'r Ods bob tro i mi ei chlywed. Mae'n jest hwyl a sbri!
Fel Hyn Am Byth (Myspace)


8. Yucatan – Y Gwacter: dwi'n ffan mawr o gerddoriaeth ôl-roc, felly doedd dim amheuaeth byddaf yn hoffi Yucatan. Mae harddwch eu cerddoriaeth yn cyffwrdd yn fy nghalon, ac mae'r gân yma yn arbennig o arbennig!

 

9. Y Promatics – Bodlon i sibrwd: i mi, Y Promatics oedd un o fandiau mwyaf diddorol a dawnus o ran ddull eu cerddoriaeth, felly bechod nad ydyn nhw'n bodoli bellach! A dyma eu cân orau o ran alawon (dydw i ddim yn siŵr am y geiriau, dwi'n methu deall y cyfan)


10. Gorky’s Zygotic Mynci – Merched yn neud gwallt ei gilydd: doedd gen i ddim syniad yn y byd am y gân hon am lawer o amser, dim ond caneuon o "Patio" a "Barafundle". Ond ar ôl i mi gael ychydig mwy o gynhyrch Gorky's oddi wrth fy ffrind, dyma beth y syrthiais mewn cariad efo hi!

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz