niedziela, 9 grudnia 2012

Cyfarfodydd sgwrsio ym Mhoznań

Bydd gynnon ni gyfarfod sgwrsio nesaf ar ddydd Llun hwn. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn hoff iawn (iawn) ohonyn nhw, dyma'r unig gyfle (bron) i mi ei gael yn ystod y flwyddyn i siarad Cymraeg, fel mae'n digwydd. Wrth gwrs, ar wahân i'r gwersi a sgyrsiau ysgrifenedig.

Nid yn unig rydyn ni'n siarad am bynciau 'llosg' y brifysgol a'n bywydau ni, ond hefyd mae gynnon ni siawns i drefnu digwyddiadau a'u trafod nhw. Er enghraifft, bydd Nadolig yr Adran yn digwydd mewn pum niwrnod (ysgrifennaf adroddiad wedyn), ac mae noswaith ffilm nesaf yn yr wythnos ganlynol.

Hefyd, rydyn ni'n trafod pynciau diwylliannol, fel addysg yng Nghymru (y tro olaf ond un), dysgu Pwyleg i'n hathrawon (hwyl a sbri :)), dysgu Cymraeg i bobl eraill (ie! mae un person tu allan i'r Adran eisiau dysgu Cymraeg, mae hynny'n wych, nac ydi?), a siarad am bethau digrif a difrif eraill.

Tybed ar beth byddwn ni'n myfyrio yfory? Roedden ni'n cellweirio mai cwyno bydd y prifbwnc, gan bod pawb yn hoff o wneud hynny. Mi gawn ni weld!

--------------------------------------------------------------

Na, dim cyfarfod y tro yma, mae'r gaeaf go iawn wedi dod, roedd eira'n disgyn drwy'r dydd, a nawr fydd yna ddim digon o bobl yn cyrraedd...

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz