sobota, 16 czerwca 2012

Arholiad & Hwyl a Sbri

Da iawn yn wir, llwyddais fynd drwy un arholiad arall, sef: Gwyddeleg! Mewn gwirionedd, roeddwn yn mwynhau fy hun wrth ysgrifennu, doedd o ddim yn rhy anodd (peth da!). Ond, i ddweud y gwir, rodd yna lawer i ddysgu: penodau o dri llyfr (deg ar hugain ohonynt!), disgrifiad un o agweddau oddi lyfr “Caisleáin Óir” (Castell Aur) gan Séamus Ó Griana ac un peth am hanes Iwerddon neu un gan Wyddeleg. Bydd yna bosibilrwydd inni gael 400 pwynt (eithaf llawer!). Rŵan dwi’n disgwyl fy arholiad Saesneg llafar (a dwi’n ei ofni dros ben llestri!); ar ôl imi gael fy nghyfweliad, byddaf yn gwybod fy holl ganlyniadau Saesneg. [O, plîs... J]

Ar ôl yr arholiad, roedd gennym barti bach er mwyn inni gael cyfle i ffarwelio dau o’m hathrawon: ein hathro Gwyddeleg ac athrawes Gaeleg yr Alban. Rydym yn gwneud hyn bron â phob blwyddyn, ac mae hyn yn eithaf rhwystredig- rwyt ti’n dechrau hoffi rhywun ac mae o/hi’n penderfynu mynd. Ie, beth bynnag: rydym wedi paratoi crysau-T arbennig iddynt, y rhai â argraffiadau doniol neu sy’n awgrymu pethau. Llynedd, fel enghraifft, cafodd dau athro crysau â ffrwchnedd (-i? –au?) ac isdeitlau (pe gallwn ddefnyddio’r gair hwn yn y cyd-destun yma) “To jest ffrwchnedd, tej” (“Dyma ffrwchnedd”,  a defnyddir ‘gair’ “tej” gan bobl Poznań yn unig).

Roeddem yn gwylio gêm Sweden yn erbyn Lloegr hefyd, ac roeddem i gyd yn cefnogi Sweden, felly trueni nad enillon nhw... Roeddent mor agos! Ond rŵan byddem i gyd yn cefnogi Gwlad Pwyl, maen nhw’n chwarae yn erbyn Gweriniaeth Tsiec heno, ac bydd yn rhaid iddynt ennill er mwyn symud ymlaen. Felly croeswch eich bysedd!

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz