piątek, 27 kwietnia 2012

Newydd ddechrau

Dwi wedi dechrau cyfeithu llyfr Fflur Dafydd, jest fel soniais o'r blaen. Mae hyn yn ymddangos yn eithaf hawdd i'w wneud mewn ffordd! Ar ôl imi orffen y bennod gyntaf, gallaf weld nad oedd gen i angen meddwl am eiriau Saesneg (dim ond ychydig ohonynt efallai, un neu ddau y dudalen), mae popeth yn mynd yn syth o'r Gymraeg i'r Bwyleg. Trawiadol dros ben llestri :)

Fodd bynnag, dwi'n gwybod mai ffordd hir sydd y tu blaen imi a llawer o waith i'w wneud. Gallai'r cyfieithu fod yn arbennig o galed a chymhleth. Fel enghraifft, hwyrach bydd gen i broblem efo tafodieithoedd ac yr ffaith bod cymeriadau'n defnyddio mathau gwahanol o arddullau, mae'r Gymraeg y rhai ohonynt ychydig yn fwy safonol, tra bod eraill yn Seisnegeidio eu llafar ac ar hyn o bryd dwi ddim yn sicr sut i drosglwyddo hynny i'r Bwyleg.

A chyda llaw, efallai hoffai unrhyw un roi ychydig o gymorth imi efo cywiriadau a golygu? Dwi'n teimlo bod fy mrawdegau yn swnio ychydig yn drwsgl weithiau, ella fy mod i'n cyfieithu'n rhy llythyrennol? Byddd yn rhaid imi ddatblygu fy sgiliau (gan does gen i ddim digon ohonynt, dwi erioed wedi ceisio cyfieithu llyfrau!)

Wel, gawn ni weld sut mae popeth yn mynd. Gobeithio'r gorau!

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz