środa, 18 kwietnia 2012

Cyfres Cewri Asia

Roeddwn yn meddwl am ddechrau cyflwyno fy hoff gerddorion yn y fan yma am wythnosau nawr, ac oherwydd gwnes i gyflwyniad am fy hoff fand ar gyfer gwersi, pam beidio â'i roi i'm blog hefyd? Dwi'n eithaf sicr doeddwn ddim yn rhy lwyddianus wrth gyflwyno ddoe (gan anghofiais am lawer o bethau roeddwn am eu dweud), felly cylfe da i weithio allan beth oeddwn yn siarad amdano bydd hwn!

"I ddechrau, gadewch imi ddweud bod siarad am gerddoriaeth yn gymhleth iawn, gan fod cerddoriaeth i fagu teimladau, nid meddyliau, yn fy marn i. Fel y canlyniad dylai pobl deimlo, nid meddwl wrth wrando, ac mae’n anodd disgrifio beth mae pobl yn ei deimlo, onid ydy? Felly, dwi ddim am berswadio unrhyw un ohonoch chi, ond hoffwn eich gwneud chi’n teimlo rhywbeth o leiaf tebyg i finnau, a gwerthfawrogi'r un fath o gerddoriaeth rydw innau yn ei gwerthfawrogi.

Fel mae o leiaf rhai ohonoch chi’n gwybod yn barod, The Corrs ydy fy hoff fand yn y byd, a dwi’n credu mod i’n eithaf gwybodus amdanynt. Felly, mae The Corrs yn fand sy’n cynnwys tair chwaer, Sharon, Caroline ac Andrea a’u brawd, Jim. Hefyd, yn ystod cyngherddau, byddai dau ddyn arall yn chwarae efo nhw, sef Keith Duffy ac Anto Drennan. Mae pob un ohonynt yn gallu chwarae offerynnau gwahanol. Maen nhw i gyd yn chwarae piano, ac ar wahân i hyn, mae Sharon yn gallu chwarae ffidl a gitâr, Caroline drymiau a bodhrán, Andrea tin whistle (sy’n ffliwt fach), a Jim mathau gwahanol o gitâr.

Penderfynon nhw i greu grŵp fel teulu ym 1991 a recordion eu halbwm cyntaf, Forgiven, Not Forgotten ym 1995. Gadewch imi ddangos rhywfaint o ganeuon o’r albwm hwn: Heaven Knows (dwi'n credu hon ydy fy hoff un o'r albwm)RunawayThe Right Time, Leave Me AloneErin Shore. Mae’n ymddengys roedd pobl wrth eu moddau gwrando ar ganeuon The Corrs, gan ddaethon nhw’n boblogaidd iawn ledled Ewrop a, peth diddorol, Siapan (fel Jakokoyak (fideo Eira!)). 

Rhodd hyn yn hyder mawr iddynt a recordion nhw eu hail albwm, Talk On Corners, ym 1997, efo eithaf llawer o ganeuon mawr imi: Only When I Sleep, What Can I Do, So Young, Hopelessly Addicted (ffefryn!), I Never Loved You Anyway. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth y teulu i Wlad Pwyl hefyd, roedden nhw’n chwarae yn Sopot yn ystod cyfres cyngherddau arbennig yr haf. Roedd yn bwrw glaw a chwynodd Jim bod dŵr ymhob man ac ar ei allweddi hefyd.

Wedyn, yn dilyn eu llwyddiant enfawr o gwmpas y byd, daeth recordiad Unlpugged (Di-wifr), rhywbeth sy’n ar gael i bobl fwyaf llwyddiannus. Dwi’n hoffi Unplugged oherwydd mod i’n hoff iawn o offerynnau llinyn. Gadewch imi gyflwyno ychydig o ganeuon o yna: No Frontiers (yn hollol wych imi)What Can I Do (fersiwn gwell o'r un albwm!), Everybody Hurts (dwi ddim yn hoff o fersiynau cover, ond mae hyn yn ardderchog).

Yn fuan wedyn, digwyddodd trasiedi (neu drychineb) enfawr yn y teulu, marw a wnaeth eu mam. Er mwyn ymdopi â’u tristwch, recordion nhw albwm arall, In Blue (eu halbwm gwaethaf yn fy marn i, ond efo eu hit enwocaf, Breathless, ond hefyd rhai o ganeuon gwell na hyn: At Your Side (acwstig), No Mo Cry (acwstig), Rebel Heart, Rain (geiriau gorau Shron!), Give It All Up (cân eithaf gwael ond eithaf pleserus hefyd).

Yn 2004, recordiodd The Corrs albwm arall, Borrowed Heaven, ac roedd hwn yn fy hoff albwm am amser hir. Summer Sunshine oedd y gan a ddechreuodd fy antur The Corrs (a dwi'n cofio roeddwn ei recordio ymhob man!), ond mae llawer o ganeuon da iawn ar yr albwm: Long Night, Confidence For Quiet, Baby Be Brave (dwi'n hoffi rhythm ynganiad yma).

Ac wedyn, yn 2005, recordion nhw eu halbwm mwyaf newydd hyd yn hyn, Home. Dyma fy hoff albwm ar hyn o bryd, oherwydd penderfynnon nhw recordio eu fersiynau eu hunain o ganeuon Gwyddelig a oedd yn eu hysbrydoli drwy flynyddoedd diwethaf. Felly, dyma flas yr albwm My Lagan Love, Heart Like A Wheel, Old Town, Dimming Of The DayBríd Óg Ní Mhaille.

O hyn ymlaen, dydyn nhw ddim yn recordio fel band, ond mae Sharon ac Andrea wedi cychwyn eu cynlluniau cerddorol eu hunain. Os hoffet wybod, mae y ferch gyntaf wedi recordio un albwm (It’s Not A Dream) ac yr ail ferch dau (Ten Feet High a Lifelines). Yn gyffredinol, dydyn nhw ddim yn gymaint â beth fyddai The Corrs yn ei recordio, yn anffodus, ond mae yna sawl cân sy’n werth eu clywed, yn enwedig y rhai a chafodd eu recordio gan Andrea, mae hi’n gallu ysgrifennu’n dda! Does neb yn gwybod ai dôn nhw nôl neu beidio. Mae nhw wedi credu teuluoedd eu hunain, mae ganddynt feibion, merched a chariadon, felly dwi’n sicr bydd yn well ganddynt ganolbwyntio ar hyn. Ond, fel pob ffan The Corrs, dwi’n aros yn astud.

Iawn, ar ôl imi roi ychydig o wybodaeth am eu hanes a blas o’u cerddoriaeth i chi, gadewch imi ddweud pam rydwi mor hoff ohonyn nhw (er gwaethaf mae hyn yn andros o anodd imi!). Wel, yn gyntaf, mae’r math o gerddoriaeth roedden nhw’n ei chreu yn apelio ataf fi. Roedden nhw’n ceisio cymysgu arddulliau cerddoriaeth, felly mae yna ychydig o roc, pop, reggae, soul, cerddoriaeth côr a thraddodiadol. Doedden nhw ddim yn ofni defnyddio offerynnau traddodiadol wrth chwarae a hyn a wnaeth nhw’n eithaf unigryw. Hefyd, dwi’n gwerthfawrogi eu parodrwydd i weithio’n galed er mwyn llwyddo; pan oedden nhw dal yn gweithio, byddai nhw’n rhoi cannoedd o gyngherddau yn flynyddol, ac roedden nhw i gyd yn fywiog a llawen. At hynny, roedd The Corrs yn fwy na pharod i roi cymorth i wledydd y trydydd byd a phres i bobl dlawd. A dwi’n sicr roedden nhw’n bwydo adar bach a helpu hen wragedd croesi lôn hefyd (i ddeall, gwrandewch am gân Pam mor neis 'di'r byd! gan Neu! Unrhyw Declyn Arall). Fel y canlyniad, rhodd un ohonynt, sef y Frenhines, teitlau arbennig i’r teulu Corrs. Mae nhw’n foneddigesau a boneddigion rŵan. A hefyd, dwi’n eithaf hoff o’u synnwyr digrifwch. dwy ffilm parodi ddoniol iawn (imi), felly, os oes hoffech eu gweld... French & Saunders a Ant & Dec."

Dwi’n gobeithio roeddech chi’n mwynhau. Diolch am eich sylw, pawb!

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz