środa, 4 kwietnia 2012

Awydd i gyfieithu


Unwaith, dywedodd Angharad Tomos nad ydy’n rhy fodlon i’w llyfrau gael eu cyfieithu i’r Saesneg. Serch hynny, mae yna gwpl ohonynt ar gael yn yr iaith hon yn awr. Tybed pe byddai’n bosibl imi gael ei chaniatâd i gyfieithu o leiaf un o’i llyfrau i’r Bwyleg: fel soniais o’r blaen (er nad ydwi’n sicr naill ai yn y fan yma neu ar y record), dwi’n hoff iawn o’r llyfrau Angharad Tomos; dwi wedi darllen tri neu bedwar ohonynt, a bron â phob un o’r cyfres Rwdlan. Fy hoff lyfr Mrs. Tomos ydy ‘Wele’n Gwawrio’ a dyma’r llyfr hoffwn ei gyfieithu, mae'n eithaf arbennig. Neu 'Titrwm'! Serch hynny, dydwi ddim yn gwybod pe byddwn yn gallu trosglwyddo ei hiaith wych. Ac dwi’n credu bydd yn angenrheidiol i gynnwys adnod arbennig efo disgrifiadau o bethau Cymreig fel Mabinogi (dwi ddim yn meddwl bod yna lawer o bobl yng Ngwlad Pwyl a byddai yn gyfarwyd â diwylliant Cymru…

Un llyfr arall hoffwn ei roi i bobl Gwlad Pwyl ydy ‘Y Llyfrgell’ gan Fflur Dafydd. Tybed beth ddyweddai Mrs. Dafydd pe gofynnwn iddi am ei chaniatâd hi. Dwi’n fwy na siŵr ei fod y llyfr hwn yn  deilwng ei gyflwyno i ddarllenwyr gwledydd eraill! Ond, unwaith eto, mae yna lawer a llawer o elfennau Cymreig yn benodol: y llyfrgell yn Aberystwyth, beirdd Cymru, pobl wallgof… (na, mae’r peth diwethaf yn gyffredin, mae llawer o bobl wallgof yng Ngwlad Pwyl hefyd. Ffaith.)

Gawn ni weld, efallai byddwn yn gallu dechrau fy nghynllun arbennig yn fuan!

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz