czwartek, 21 lutego 2013

Noson sgwrsio

Roedd gynnon ni noson sgwrsio arall neithiwr. Un noson braf yn rhagor, fel arfer!

Y tro yma, roedd fy ffrind yn siarad am ei brofiadau yn Llydaw, am ddysgu Llydaweg, gwella ei Ffrangeg, am bobl a oedd yno, am neuaddau myfyrwyr ayyb. Rhaid i mi gyfaddef iddo fynd trwy eithaf llawer o bethau tra yn Llydaw, ond yn gyffredinol ymddengys Erasmus yn ddeniadol iawn i mi. Bechod na fydd gen i gyfle ceisio mynd fy hun, dwi'n (mewn theori) graddio o'r brifysgol eleni...

Ond ta beth. Un peth arall oedd adroddiad fy ffrind arall a aeth i Gymru am un diwrnod a hanner dwy wythnos yn ol. Roedd ganddi anturiaethau hefyd! Unwaith, cafodd ei chloi tu mewn parc ynghanol Caerdydd cyn bump o'r gloch yn y prynhawn (gwallgof!); yn ffodus iddi, roedd heddlu ar wyliaduriaeth a chafodd ei hachub gan un ohonynt (sy'n medru Cymraeg!) Yn lwcus, doedd dim rhaid iddi neidio trwy'r giat, fel y roedd i un o'm ffrindiau eraill, a chafodd o ei frifo yn ei goes.  Diwedd da i stori (yr un ddiweddaraf, wrth gwrs!)

Ac un pwnc arall oedd math o gynhadledd ffantasi/ffuglen wyddonol a gynhelir ym mis Mawrth ym Mhoznań. Mae gan dri neu bedwar o'm ffrindiau cyflwyniad yno, ac bydd dau ohonynt yn cymharu'r Gymraeg efo'r Sindarin, iaith ellyllon Tolkien. Bydd yn rhaid i mi eu gweld. Llynedd, roedd eu darlith am y Gymraeg yn boblogaidd dros ben, doedd dim digon o le i bawb a oedd yn bwriadu eu gweld! Ac wnaeth dair merch ymuno ag Adran Geltaidd o'i herwydd. Da iawn, gyfeillion :)

Iawn, y tro nesaf byddaf yn ysgrifennu am Ddiwrnod Dewi, hwyl am y tro!

1 komentarz:

  1. Ia, mae cau'r giatiau'n gynnar yn y gaeaf yn boen ac yn achosi anghyfleustra i bobl sy'n cerdded/beicio i'r gwaith (yn ogystal ag i ymwelwyr o Wlad Pwyl).
    Esgus y cyngor yw ei fod yn rhy beryglus i bobl gerdded yn y parc y y tywyllwch...

    OdpowiedzUsuń