poniedziałek, 22 października 2012

Cyngerdd Hello Mark ym Meskalina, Poznań

Prin iawn byddwn i'n mynychu cyngherddau y dyddiau hyn (tra ym Mhoznań, wrth gwrs!), ond doedd gen i ddim amheuaeth pan glywais am un a oedd am ddim (pam peidio a chymryd mantais, dywedwch?) yng nghlwb Meskalina yn yr Hen Farchnad ym Mhoznań. Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i'n gwybod yr un peth am y band o'r blaen, doedd gen i ddim syniad am eu cerddoriaeth chwaith. Clywais fel pumtheg eiliad o un o'u caneuon cyn y cyngerdd, ond wnaethon nhw sbarduno fy chwilfrydedd gyda honno.

Roedd y lle dan sang braidd pan gyrhaeddais, felly roeddwn i'n lwcus bod fy ffrind wedi cyrraedd ynghynt! Mewn gwirionedd, doeddwn i ddim yn disgwyl tyrfa mor enfawr (wrth ystyried maint tu mewn y clwb), ond yn y diwedd, deallais pam roedden nhw i gyd yno.

Ar ol i mi gyraedd y lle, daeth yn glir bydd y noson yn fwy na noson gerddoriaeth i minnau a'm ffrind: roed gynnon ni'n dwy rhywbeth blasus i fwyta (Welsh rarebit [enw Cymreig? unrhyw un?] a wafers fanila), ac hefyd, fel arfer, dechreuon ni chwarae gwyddbwyll (ein caethineb newydd!). Yn anffodus, nid noson finnau oedd honno: collais unwaith, a gorffennodd un gem mewn cyfartal.

A phan oedden ni'n chwarae gwyddbwyll, dechreuodd y band chwarae eu cerddoriaeth. Ac mae'n rhaid i mi gyfaddef ces i siom ar yr ochr orau! Doeddwn i ddim yn disgwyl rhywbeth mor ffres, llawn o egni ac amrywiol! Mae'r band yn chwarae cymysgiad o roc, pop, ffync a cherddoriaeth electronig, sy'n gwneud iddyn nhw swnio'n eithaf unigryw. Mae gan y prifleisydd llais da cryf, a chryn dipyn o synnwyr digrifwch. Mae'n ymddangos iddyn nhw gael cymaint o hwyl a sbri fel y gynulleidfa, a chanon nhw un gan ychwanegol yn y diwedd. Roedd y caneuon yn bleser i'w clywed, ond, yr unig anfantais, roedden nhw yn y Saesneg i gyd... Er hynny, wnes i fwynhau fy hun yn arw, ac yn sicr wna i gadw fy llygaid arnyn nhw! Efallai wnan nhw greu rhywbeth Pwyleg?

Fan hyn, os oes diddordeb gennych, dyma eu proffeil ar YT ac ychydig o'u caneuon, ac hefyd eu gwefan swyddogol. Mwynhewch!

Hello Mark ar YouTube

www.hellomarkmusic.com

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz