niedziela, 14 października 2012

Bach o gymharu, bach o adolygu...

Yn ddiweddar, darllenais Atyniad gan Fflur Dafydd, ac wedyn, yn ystod fy niwrnod olaf yng Nghymru, llwyddais brynu Twenty Thousand Saints (i'r rhai sydd ddim yn gwybod, mae hi wedi ail-ysgrifennu Atyniad mewn Saesneg, ond fersiwn gwahanol ydy hwn, gyda chymeriadau a phlot   gwahanol). Roeddwn i'n bwriadu rhoi adolygiad y ddau yma yn wahanol i'w gilydd, yn trafod pynciau gwahanol, ond ar ol i mi ddarllen yn fanwl, sylwais bod nhw, rywsut, yn un stori, bod nhw'n cyd-fynd efo'i gilydd.

I ddechrau, ychydig bach o gefndir, yn llythyrennol! Yn y ddwy nofel, mae bron a phob dim yn digwydd o mewn Ynys Enlli (neu Bardsey Island). O'r hyn dwi wedi darllen, mae Fflur Dafydd wedi cael math o ysgoloriaeth a alluogodd iddi aros ar yr ynys ac ysgrifennu. Felly dyna pam bod hi mor wybodus am yr amgylchoedd. Roeddwn i wrth fy modd pam oeddwn i'n darllen ei dysgrifiadau o'r ynys. Dwi'n cofio, yn ol yn Aberystwyth, i mi weld siap Enlli yn y pellter, ac roeddwn i eisiau gwybod mwy amdani, deall pam bod hi mor atyniadol i mi. A galla i weld rwan, ar ol i mi ddarllen. Wel, o leiaf dwi'n credu i mi allu gweld, achos 'r hyn yr ysgrifennodd Fflur Dafydd, ynys hud ydy Enlli, ynys sy'n newid pobl, sy'n gwneud iddyn nhw sylwi beth sydd o'i le yn eu bywydau nhw. Ac yn amlach na pheidio mae'n cynorthwyo wrth iddyn nhw geisio trwsio'r pethau hyn. Pam? Efallai oherwydd mai ynys ydy hi? Darnyn o dir sydd ar wahan i'r tir go iawn, gyda llai o bopeth sydd ar gael yn hawdd yn ein bywydau ni. Ar ynys rydyn ni'n cael amser i feddwl, i fyfyrdodi, i ail-ddarganfod ein hunain o'r persbectif arall, o'r ongl arall. Dyna beth sy'n digwydd i gymeriadau'r llyfrau. Dim ond ar yr ynys bydden nhw'n gweld nad ydyn nhw'n byw fel y hoffen nhw, ac mae bron a phob un ohonyn nhw'n cael digon o ddewrder i gamu oddi'w bywydau gwenwynig.

Wrth gwrs, fydd hynny ddim yn bosib heb bobl eraill. Dwi'n gallu gweld bod perthynasau rhwng bobl yn un o rannau pwysigaf y ddwy nofel. Perthynas corfforol (os galla i'w galw nhw fel hyn), ydy'r prif un, ac mae'r rhai pwysicaf yn datblygu ar yr ynys. Ond mae'n ymddangos bod ei hud yn atal i fodoli tu hwnt iddi hi, gan nad ydy'r un o'r perthynasau yma'n dal i barhau ar ol i'r cymeriadau adael. Ond weithiau nad ydy hwn yn beth drwg, gan naill ai gwnai 'serch yr ynys' iddyn nhw 'dorri rhwystrau' perthynasau cynt, a oedd yn wenwynedig a doedden nhw ddim yn gallu eu stopio, neu sylweddoli bod nhw, wedi'r cyfan, yn anhapus, ac ni wnaethon nhw weld hynny cyn cyrraedd Enlli. Does dim gwaeth gan Fflur Dafydd pa fath o berthynas ydy hi'n ei ddisgrifio, ac mae'r motif o berthynasau cyfunrhywiad yn gryf yn y nofelau (y motif sydd, dwi'n credu, dal yn rhoi ychydig bach o sioc, neu o leiaf i mi). Ond nid yn unig y perthynasau o'r fath sy'n cyfrif, gan all teimladau rhwng aelodau teulu'n gymhleth iawn hefyd, ac, yn dilyn un trychineb neu llall, gall pobl colli cysylltiad efo'i gilydd (gweler: Twenty Thousand Saints).

Mae Fflur Dafydd yn trafod pynciau o Gymreictod hefyd, ond yr hyn yn Twenty Thousand Saint yn hytrach nag Atyniad. Dwi'n credu nad oedd hynny mor angenrheidiol yn ei nofel Cymraeg, gan oedd hi'n defnyddio'r Iaith. Ond mae'n fwy o sialens gyda'r iaith estron, sef y Saesneg. Wrth gwrs, mae'r awdur yn awgrymu bod rhan o gymeriadau'n defnyddio'r Gymraeg, ond dydy hi ddim yn gallu rhedeg eu sgwrsiau yn yr iaith hon. Hefyd, mae'r pwnc o hunaniaeth yn ddilys yn y nofel Saesneg. All un fod yn Gymro heb yr iaith? Mae un o gymeriadau wedi dewis i beidio a'i defnyddio pan oedd o'n ifanc, ac rwan dydy o ddim yn ei chofio. Ond mae'n ymddangos dydy'r iaith ddim yn diflannu jest fel 'ma, dim ond sbardun, ac mae'n ailddangos ei hun o flaen y cymeriad (yn ei wneud bach wedi ei ddychryn, dwi'n credu!)

Y peth olaf hoffwn i siarad amdano ydy motif o archwilio. Wrth gwrs, y prif enghraifft ydy'r gwaith cloddiad ar yr ynys, ond, yn y ddwy nofel, dim ond palu ydy'r cyfan, mae rhai o bobl yn gwybod nad ydyn nhw'n mynd i ddarganfod dim byd. Ond, yn y cyfamser, mae gawith archwilio llawer mwy diddorol yn digwydd. Mae criw ffilm wedi dod i'r ynys er mwyn creu dogfen o fywydau trigolion yr ynys. Ac, wrth iddyn nhw suddo i mewn i'r cymuned bach, bydd ffeithiau mwyaf annisgwyl yn ymddangos. Hefyd, bydd rhai o gymeriadau'n palu/ twrchio i mewn eu hunain, yn cael eu newid (i'r gwell? i'r gwaeth? Popeth yn dibynnu ar y safbwynt!). Ac mae cyfrinachau o'r gorffennol yn cael eu datguddio'n raddol, yn peri ofn ac ansicrwydd ar rai, ac ryddhad ar eraill.

Iawn, felly dyna'r cyfan o'm rhan innau, gadewch i mi son am un neu ddau beth arall er mwyn cloi fy myfyrdodau. Wnes i ddarllen y ddwy nofel gyda chwilfrydedd a phleser, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef i mi gael bach o drafferth gyda Twenty Thousand Saints. Doeddwn i ddim yn gallu dod i arfer gyda'r iaith estron ar ol i mi gael popeth ganddi yn y Gymraeg. Ond, yn ffodus, ar ol rhyw wythdeg o dudalennau ces i 'suddo i mewn' (ymadroddiad Pwyleg) gan y nofel ac wnes i ei 'llyncu' (un arall) fel petai. Ces i fy swyno yn enwedig gan 'farddoniaeth' sydd yn ei rhyddiaith, disgrifiadau byd y natur yn enwedig, ond hefyd gan ei medr i greu cyfrinach, ac wedyn ei datguddio'n araf, araf (sydd wedi gwneud i mi droi'r tudalennau'n gyflym, gyflym!)

Ar ol dweud hynny, dwi'n gobeithio y cewch cyfle i ddarllen y ddwy nofel, ac os cawsoch chi'n barod, gobeithio i chi eu mwynhau, mae llawer o le i'w canmol, ac maen nhw'n haeddu'r canmoliaeth i gyd!

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz