czwartek, 16 sierpnia 2012

Pabell binc, binc, binc...

Felly, gan eich bod wedi gweld yn barod, ces i gyfle unigryw i weld a'm llygaid fy hun beth sy'n digwydd yn ystod Gwyl fwyaf Cymru, sef y Steddfod. Dau gyfle, hyd yn oed!

Ac beth ydw i'n ei feddwl? Wel, mae gen i sawl meddwl sydd, weithiau, yn gwrth-ddweud ei gilydd!

Yn gyntaf, mae'n rhaid imi gyfaddef nad ydw i'n hoffi'r lliw pinc. O gwbl. Rydym yn elynion am byth. A phinc ydy lliw y Pafiliwn. Felly, fel gallech ddychmygu, nad oeddwn yn rhy hapus ei weld yn fyw, yn enwedig pan oedd yr haul yn ei wneud yn binc llachar. Ond, yn ffodus, llwyddodd tu mewn i wneud iawn imi am du allan. Dwi wedi gweld ychydig o bethau traddodiadol: dawnsio gwerin (unigolion), canu mewn deuawdau a dwy seremoni bwysicaf yr Eisteddfod, sef Y Fedal Ryddiaeth a Chadeirio. Yn anffodus, doedd yna ddim enillydd eleni wrth ystyried nofelau. Yn ffodus, mae gennym brifardd (sydd, yn hollol annisgwyl, yn berson fy mod yn gweithio ag ef!). Roedd gweld rhywbeth fy mod wedi'i weld ar ffilmiau yn unig cyn hynny yn wneud imi deimlo fel rhan fach ond pwysig o Hanes pur (dychmygwch: 1176-2012, cymaint o flynyddoedd!)

Ac wrth ystyried pethau tu hwnt y Babell... Wel, roeddwn wrth fy modd yno (er gwaethaf y ffaith imi ffeddwl am y cyfan fel ychydig o ffair mwy. 'Nghamgymeriad innau!) Doeddwn ddim yn disgwyl gallai cymdeithasu dod a chymaint o hwyl a sbri! Roeddwn yn gallu siarad wrth ddefnyddio Cymraeg yn unig (yn union fel yn ystod Hanner Cant, ond a mwy o bobl mewn oedran gwahanol), ac roedd pawb mor neis i minnau a'm ffrindiau (yn enwedig wrth glywed am le fy ngeni :)) Des i'n gydnabod a phobl newydd sbon, a ches i gyfle i weld y rhai cyfarwydd imi yn barod (efallai heb enwau fan yma, ond roedd yn braf iawn iawn i'w gweld nhw i gyd!). Hefyd, prynais cryn dipyn o lyfrau diddorol (am Owain G. a seryddiaeth), un albwm (ac archebais un mwy ar ol y Steddfod, ond stori arall ydy hon), a ches i ychydig o eitemau diddorol a defnyddiol wrth imi grwydro o gwmpas y Maes.

A, diolch byth, roedd y tywydd yn hael inni eleni! Dwi ddim yn sicr a fyddai'n bosibl imi fwynhau cymaint yn y glaw trwm neu mewn llaid...

Ac yn y diwedd, fy hoff sgwrs yr Eisteddfod:

- O ba ran o Gymru rydych chi'n dod?
- Gwlad Pwyl

Tybed a allaf ddweud fy mod yn ran o Gymru erbyn hyn...

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz