Gwych, mae fy nogfennau ar gyfer Erasmws yn disgwyl am bobl garedig a fydd yn fodlon i'w gweld a'u cymeradwyo. Dydwi ddim yn sicr os bydd 'na unrhyw fodd imi gael eu grant (rhyw fath o ysgoloriaeth), dwi'n ofni fydd fy nghyfartaledd gradd ddim yn ddigon wrth ei gymharu â'r gweddill (safonau uchel ein prifysgol...), welwch felly: bydd yn rhaid imi groesi fy mysedd ac byddwn yn gwerthfawrogi eich cymorth ysbrydol hefyd :)
Gawn ni weld, mae popeth yn bosibl yn ddamcaniaethol! Gallech ddychmygu fy ysfa i fynd i Gymru, onid gallech? Roeddwn yn siarad â'm ffrind ar ein ffordd i'n llyfrgell ni heddiw. Cytunon ni bydd ein bywydau yn drist a gwag heb y Gymraeg, wir i chi! Dwi ddim yn gallu dychmygu fy hun heb fy nysgu'r iaith hon ar hyn o bryd. Ond roeddwn yn meddwl am ddechrau astudiaethau cyfraith cyn imi benderfynu ar IFA, dwi ddim yn gallu coelio hyn! Er hynny, dwi'n credu fy mod wedi gwneud penderfyniad cywir, dwi'n gwneud y peth bod gen i ddiddordeb ynddo, da!
Ynglyn â'r Erasmws eto, roedd gennym sawl problem ddydd Gwener, mae pobl yng Ngwlad Pwyl yn hoff iawn iawn o fiwrocratiaeth. Roedd yn rhaid imi fynd i'r swyddfa Erasmws bedair gwaith mewn un awr (!). Yn gyntaf, roedd yn rhaid imi newid un dudalen o'm ffurflen gais, wedyn roedd y ddwy ddynes yn y swydd wedi eu drysu nad oedd gan ein dogfennau stampiau swyddogol (er nad oedd 'na stampiau yng Nghymru, o gwbl), ac wedyn roedd yn rhaid imi roi llythyr personol i'm hathrawes oherwydd fe'i gafodd ei ysgrifennu ar bapur y cwmni. Waw. Ond, yn y diwedd, fel dywedais, mae ein hymdrecchion wedi llwyddo.
Iawn, digon am heddiw, ymddiheuriadau nad ydwi'n ysgrifennu mor aml, byddwn yn ceisio ymddiwygio fy hun!
Hwyl fawr a diolch am eich sylw!
Brak komentarzy:
Prześlij komentarz