Beth bynnag,
doedd ‘na ddim brys go iawn (wel, roedd amser yn brysur iawn, iawn yn ystod dau
ddiwrnod cyn y Pasg, ond fel arall...), felly roeddem gallu gwneud pethau â
phleser go iawn (ar wahân i lanhau, wrth gwrs). Felly: roeddem wedi paratoi
saladau blasus, fel yr un efo cig iâr, olewydd, letys, ciwcwmbr, a saws garlleg
wedi’i gymysgu â iogwrt. Hefyd, roedd fy mam a chwaer wedi pobi cacen gaws ac
un gacen arbennig efo hufen fanila a’r blas advocat.
Yn anffodus imi, dwi wedi addo i beidio â bwyta pethau melys i fis Mehefin. Felly,
doeddwn i ddim wedi eu bwyta. Bechod! Nôl i bethau normal i’w bwyta: roeddem yn
bwyta bigos ardderchog gan fy mam. Argymhellaf
y bwyd hwn i bawb (gallai fod efo neu heb gig, felly dylai llysieuwyr fod yn
fodlon i’w fwyta hefyd!).
Wrth gwrs, nid yr
amser bwyta yn unig ydy’r Pasg. Ymwelom â’n ffrindiau a theulu ni hefyd. Yn
gyntaf, aethom i ffrind fy mam, fy modryb a’i merch. Dwi’n hoffi mynd i’w tŷ yn
fawr iawn, roedd fy mam a’m modryb yn ffrindiau â’i gilydd ers degawdau, o
leiaf chwarter cant o flynyddoedd a dwi innau a’m chwaer yn ffrindiau efo’i
merch o’m genedigaeth. Dan ni’n cael hwyl a sbri bob tro rydyn ni’n ymweld â’i
gilydd.
Wedyn, ddydd
Llun, aethon ni i’m nain a thaid i ymweld â gweddill y teulu. Yn anffodus, dim
ond un cefndir a oedd yno. Mae gen i dri ohonynt, ond dwi ddim yn cael llawer o
gyfleoedd i’w gweld y dyddiau hyn, er eu bod nhw’n byw ym Mhoznań. Ychydig yn
rhyfedd, onid ydy? Ond fel arall, roedd ein ymweliad yn eithaf bleserus. Roeddem
yn siarad, yn chwerthin ac yn cael amser da, dwi’n credu. Trueni na chawsom gyfle
i fynd am dro, ond doedd y tywydd ddim yn gyfeillgar iawn ac rydyn ni i gyd yn
hoffi cynhesrwydd yn fawr iawn.
Mae’r Pasg wedi
dod i ben. Yn rhy gyflym imi, felly dwi’n edrych ymlaen i’r gwyliau nesaf!
Brak komentarzy:
Prześlij komentarz