Ac wel... Dwi'n eithaf rhwystredig
ar ôl echddoe! Yn gyntaf, roedd ein cyflwyniadau yn fwy nag awr a hanner
(!) yn hwyr achos roedd yn rhaid i'r dynion a oedd yn gyfrifol am sŵn a delwedd
drefnu popeth. Ond, mewn gwirionedd, doedden nhw ddim yn ymddangos i roi digon
o sylw i'w gwaith. Roedd eu ffonau symudol yn fwy pwysig iddynt. Gwych. Hyd yn
oed yn waeth, dechreuon nhw efo carioci yn lle o'n cyflwyniadau ni! A roedd un
o ddynion technegol yn canu 'Hallelujah'... Pe fydden ni ddim yn teimlo mor dig erbyn
hyn, byddai hyn yn ddoniol!
Ond, o'r diwedd, llwyddon ni lawnsio
ein gwaith.
Gwnaeth Y Flwyddyn Gyntaf
gyflwyniad am y gân Óró, Sé do Bheatha (A)bhaile (sy'n
cyfieithu i rywbeth fel "croeso 'nôl gartref"). Roedd yn neis i
ddysgu am hanes y gân. Yn gyntaf, roedd hi'n disgrifio Bonnie
Prince Charlie, Tywysog Siarl o'r ddeunawfed ganrif a oedd yn ceisio
adennill gorsedd Lloegr. Yn ofer. Wedyn, dechreuodd pobl ei chanu ynglyn ag un
o fôr-ladron (dynes!), Gráinne Mhaol (moel- roedd hi wedi torri ei gwallt ei hun!). Unwaith, gwahoddwyd hi gan y Frenhines, a
phan oedd hi yno, tisianodd a chafodd hances poced oddi wrth Elisabeth. Ar ôl
iddi ei defnyddio, fe'i thaflodd i'r tân. Roedd Elisabeth yn flin, ond
esboniodd Gráinne y byddai'n anghwrtais i'w rhoi yn ôl. Wel, ond beth pe byddai'r Frenhines yn hoff iawn o'i hances? Pa drychineb iddi, dychmygwch!
Roedd cyflwyniad Yr Ail Flwyddyn am
afr wallgof a ymosododd ar un ffermwr a oedd yn mynd i'w waith. Dechreuodd y
dyn ei daith o'i gartref; roedd y diwrnod yn braf a heulog a'r dyn yn eithaf
hapus. Doedd o ddim yn disgwyl hen eifr gwallgof ar ei ffordd, ond daeth ar
draws un, ymgnawdoliad drygioni go iawn! Doedd gan yr afr dim parch i
awdurdodau hefyd, rhwygodd trowsus plismon yn ddarnau ac o'i hachos, dywedodd
person yr eglwys lleol mai y Diawl ei hunan
a oedd yn mynd ar gefn yr afr. Stori arswyd...
Gwnaeth Y Drydedd Flwyddyn eu
cyflwyniad am gân o'r teitl Bean Pháidin, 'Gwraig
Padrig'. Yn y bôn, mae’r gân am ddynes ofnadwy o genfigennus o achos dyn
ei bod hi’n ei garu. Yn anffodus iddi, mae ganddo wraig. Ac maen nhw’n caru ei gilydd yn fawr iawn. Felly, mae’r ddynes yn troi’n ddrygionus ac yn meddwl am bethau
drwg a allai ddigwydd i’r ddynes arall. Siŵr o fod, mae esgyrn wedi eu torri yn
rhywbeth braf iawn yn ei meddwl! Serch hynny, dydy hi ddim yn rhy fodlon i
ddisgrifio pob peth a hoffai wneud i’w hail. Mae hi’n rhy gwrtais, dwi’n credu…
Bechod!
Ac, o’r diwedd, ein cyflwyniad
ninnau! Roeddem wedi penderfynnu i siarad am Dúlamán, cân Wyddeleg wych am wymon a oedd yn cael ei gasglu ar lan
y môr yn Iwerddon. Yn y gân, roedd ‘na ddau deulu (achos roedd ‘na ddau fath o
wymon - defnyddiwyd y math cyntaf i’w fwyta, ac yr ail fath er mwyn llifo dillad)
a oedd yn elyn i’w gilydd. Un diwrnod, syrthiodd bachgen o’r ail deulu mewn
cariad efo merch o’r teulu cyntaf ond deodd gweddill ei theulu ddim yn hapus oherwydd
hynny, roedd y bachgen yn ymddangos yn rhy dlawd iddynt. Ond doedd dim ots
ganddo yntau, a dywedodd wrth ei dad-yng-nghyfraith dyfodol os ni fydd yn rhoi bendith i’w perthynas,
bydd yn rhaid iddo ei herwgipio. Roedd gennym fersiwn gwych i’w ddangos, sef Dúlamán gan Celtic Woman. Mae’n fywiog
iawn, ond yn eithaf anodd i’w ganu, gan bod gan un o brifleisydd llais uchel
iawn!
I gloi, roedd y canu yn hwylus a, dwi’n credu, llwyddiannus. Roedd gan grwpiau eraill animeiddiadau gwych
a wnaethpwyd gan TG4, teledu Gwyddeleg. Does
‘na ddim animeiddiad ar gyfer Dúlaman. Yn anffodus, achos hoffwn weld beth bydden nhw’n meddwl amdano!
A dwi’n gobeithio roedd pawb yn mwynhau gwneud cyflwyniadau a’u dangos. A’r canu, wrth gwrs!
A dwi’n gobeithio roedd pawb yn mwynhau gwneud cyflwyniadau a’u dangos. A’r canu, wrth gwrs!
Diolch am eich sylw, hwyl fawr!
Brak komentarzy:
Prześlij komentarz