Fel oeddwn yn disgwyl, roedd dathliadau Gŵyl Dewi Sant yn ardderchog yma. Unwaith eto.
Gadewch imi roi disgrifiad byr o neithiwr. Felly, ymgasglodd pobl yn y dafarn (roedd 'na'n eithaf llawer ohonynt a ddweud y gwir!) ac, yn fuan (un awr yn hwyrach) dechreuodd y ffilm.
Dwi ddim yn siŵr os soniais amdano yn barod, felly mewn cwpl o eiriau: ffilm ar gyfer pen-blwydd hanner canfed Cymdeithas yr Iaith ydy hi. Roedd pobl yng Nghymru i ddweud, mewn tua un munud, beth mae bod yn Gymro/Gymraes Cymraeg yn golygu iddynt. Ac roedd y ffilm mor dda yn fy marn i... Roedd rhai o'r ffilmiau byr yn ddoniol iawn, fel enghraifft, fy hoff ran, pan oedd merch fach iawn yn canu'r Anthem Genedlaethol Cymru (yn wych, roedd hi'n gwybod geiriau i gyd!), a rhai yn deimladwy, fel enghraifft pan ddangosodd y ddynes a oedd yn disgwyl babi ei bol mawr efo llythyrennau arno a oedd yn dweud hoffai babi cael ei eni fel Cymro/Cymraes. Ac roedd ffilm ein hathrawes yno hefyd, efo lluniau o gyfarfodau pobl o'm adran (dwi ar y lluniau hyn!) ac ei meddyliau am Boznań a'r Adran. Yn gyffredinol, roeddwn yn mwynhau'r ffilm 'ma yn fawr iawn a dwi hyd yn oed yn fwy siŵr bydd yn rhaid imi ymweld â Chymru un diwrnod!
Wedyn, roedd ein hathrawon yn recordio cyfweliadau efo pobl a chymerais innau ran. Dwi ddim yn profound orator (dyfyniad o'r ffilm) felly ddywedais ddim ond un frawddeg fyr, a dwi'n edrych yn ofnus ar y record (roeddwn yn ofnus iawn!). Ond, er gwaethaf hynny, dwi'n falch roeddwn yn ddigon dewr i wneud peth fel 'ma!
Ar ôl cyfweliadau roeddem yn eistedd a siarad. A recordio! Roedd hetiau tradoddiadol ar gael, felly roedd rhai yn fwy na fodlon i cael eiu recordio efo hetiau ar eu pennau. (Ie, fi hefyd!) Ac roedd 'na cystadleuaeth ar gyfer cennin. Efo gwobrau! Yn anffodus, doedd gen i ddim un (wel, ar wahân i un a oedd yn fy rhewgell, un mewn darnau), ond llongyfarchiadau mawr i'r enillwraig!
Bydd 'na sianel Cymraeg newydd ar gael ar lein yn fuan a dwi'n credu bydd neithiwr yn rhan o ffilm ddogfen am fy ninas sy'n cael ei baratoi gan fy hathrawon. Mewn gwirionedd, dwi'n edrych ymlaen i'w gweld!
Hwyl am y tro.
Brak komentarzy:
Prześlij komentarz