Ac, wrth gwrs, roedd
tagfeydd ymhob man o achos hynny! Dwi ddim yn deall: pam y byddai pobl yn
cychwyn eu ceir yn ystod dyddiau mor hyfryd? Dylent fwynhau eu hunain yn
cerdded, yn fy marn i… Neu yn rhedeg. Neu yn mynd efo’u cŵn am dro. Neu
unrhywbeth i osgoi ceir drewllyd a swnllyd. Ond na, mae’n well ganddynt yrru a
chymryd lle ar y ffyrdd. Fel y canlyniad, mae pobl nad oes car ganddynt (fi,
fel enghraifft) yn gorfod naill ai’n aros am fysiau sy’n arfer dod yn hwyr neu
aros arnynt tra bod nhw’n gaeth mewn ciwiau enfawr. Llongyfarchiadau, bawb!
Ond, i symud oddi wrth fy nghwyno (cofiwch y gwanwyn!), hoffwn sonio am fy hoff le ym Mhoznań i'w fynd pan ddaw’r gwanwyn, sef Park Sołacki neu Sołacz. Parc arbennig iawn imi ydy hwn, ac roeddwn yn arfer mynd yno bron â phob dydd pan oeddwn yn byw yn agos iawn iddo. Mae ‘na lawer o leoedd prydferth: llyn yn ei ganol, pontydd, gwyrddni ymhob man… Dwi’n ei gymeradwyo’n gryf iawn! Gad imi ddangos cwpl o luniau y parc ‘ma, efallai byddech yn fodlon ymweld a fo un diwrnod?
fynhonnell: http://d.wiadomosci24.pl/g2/00/67/79/28056_1179350062_f852_p.jpeg |
fynhonnell: http://dn3xvn5nu3tgm.cloudfront.net/fotki/27/41/89/b/1181333850442.jpg |
fynhonnell: http://gfx.mmka.pl/newsph/313750/401207.3.jpg |
Hwyl.
Dw i'n cytuno. Mae Park Sołacki yn brydferth iawn.
OdpowiedzUsuńLlongyfarchiadau ar dy blog:)
Diolch yn fawr am dy sylw neis ;) Efallai gallen ni drefnu un o gyfarfodau sgwrsio yn Sołacz? Neu rhyw fath o gyfarfod yr Adran? Ystyriwch hyn :)
OdpowiedzUsuń