I ddechrau,
gadewch imi ddweud nad ydwi’n gallu ysgrifennu adolygiadau, ni roddwyd y ddawn
o wneud hyn imi. Felly, byddwn yn anelu at greu rhywbeth o leiaf tebyg i
adolygiadau cyffredin (peth anodd i’w wneud!) a... wel, gawn ni weld beth fydd
y canlyniad.
Iawn, dwi newydd
orffen darllen “Y Llyfrgell” gan Fflur Dafydd, un o lyfrau pwysig yng Nghymru
ar hyn o bryd. Cafodd Wobr Goffa Daniel Owen yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol
(beth ddigwyddodd i’w weld yn y fan yma:
149. Gwobr Goffa Daniel Owen)
yn 2009, llawer o ganmoliaeth, bron â 4000 o gopïau’r llyfr a chafodd eu
gwerthu; mewn gair: llwyddiant (i safonau Cymru), dwi’n credu!
Ac yn fy marn i,
er nad ydwi’n gwybod dim byd am lyfrau Cymraeg (neu Gymreig) eraill o’r tymor diweddaraf, mae
yna le i ganmoli ei llyfr hi a haeddodd Fflur Dafydd ei hun y wobr soniais amdani. Mae hi’n
gwneud cymaint i ddiwylliant Cymru: cerddores wych ydy hi, mae hi’n ysgrifennu
(llyfrau: cafodd hi sawl gwobr erbyn hyn ac dwi’n gobeithio bydd yna fwy
ohonynt yn y dyfoddol; erthyglau ar gyfer papurau; adolygiadau), dwi wedi
clywed ei bod hi’n cyfrannu at orsafoedd radio. Mae’n rhaid iddi fod yn brysur!
Iawn, digon amdani ar hyn o bryd, gadewch imi ddychwelyd at ei llyfr.
Felly, llyfr sy’n
disgrifio dyfodol Cymru ydy “Y Llyfrgell”. Mae popeth yn digwydd yn 2020 ac mae llywodraethau
wedi cael gwared o lyfrau, dim ond e-darllenwyr sydd ar gael bellach. Mae
popeth yn digwydd rhwng pedwar mur o’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn
Aberystwyth. Mae yna bedwar o brif gymeriadau: efeillion Ana a Nan, Dan y
porthor, ac Eben, adolygwr, ac mae y merched a Dan ymhlith â gweithwyr y
Llyfrgell.
O ran Eben, mae ef ei hun a’r merched yn meddwl roedd ei adolygiadau cas wedi gwneud mam Ana a Nan llad ei
hun. Rŵan, cafodd o ganiatâd i fynd drwy ddyddiaduron Elena er mwyn ysgrifennu
ei bywgraffiad. Mae o'n credu bydd y modd hwn yn rhyw fath o benyd iddo. Fodd bynnag, bydd y diwrnod yn eithaf ddiddorol iddo wrth ei eistedd yng nghell cof Elena Wdig.
Dydy Dan, y
porthor, ddim yn hapus oherwydd ei waith. Mae o’n meddwl fod o’n ddiflas dros
ben a nad oes neb sy'n gweithio yn y Llyfrgell yn deilwng o’i barch. Felly, gan ei fod o’n eithaf medrus
mewn cyfrifiaduron a chan fod Yr Archborthor, ei fos, wedi mynd i Gaerdydd, mae o’n
penderfynnu i ddodi ffug lun ohono yn gweithio yn lle llun camerau gwir. Mae
hyn o fantais i Ana a Nan a bydd eisiau mynd ati i gwblhau eu cynllun maleisus
yr oeddent yn meddwl amdano ers misoedd. Dwi ddim eisiau sbwylio eich hwyl
dyfodol, felly fyddwn ddim yn adrodd plot i gyd, ond gallech fod yn siŵr bydd yna
gyffro, saethu, llyfrau go iawn (er nad oeddent yn bodoli bellach- mewn
theori...), cuddfannau’r Llyfrgell, ychydig o wallgofrwydd, llawer o
ddirgelion: popeth!
ffynhonnell: http://www.bbc.co.uk/cymru/cylchgrawn/img/llyfrau/446x251/y-llyfrgell.jpg |
Mae’n rhaid imi ddweud roedd y diwedd yn annisgwyl a chlyfar iawn, llongyfarchiadau am hwn, pan sylweddolais beth fydd yn digwydd, roeddwn yn llawn edmygedd (waw mawr, wir i chi!) Ond dwi’n credu bydd rhaid i chi ei darllen am eich pennau eich hunain, mae’n werth gwneud hynny!
Ydy'r llyfr ar gael yn ein llyfrgell ni? Dy adolygiad yn ardderchog;)
OdpowiedzUsuńNac ydy, yn anffodus, ond mae gen i gopi fy hun, felly os hoffet ti, gallaf ei roi iti rywbryd, efallai nos Iau yn ystod ein cyfarfod sgwrsio?
Usuń