Dim ond nodyn byr iawn iawn i ddweud: mi'ch welaf chi yng Nghymru yn y prynhawn, dwi'n gadael Poznań mewn pedair awr a chyraedd Lerpwl ar ol dwy awr. Wedyn, rydym yn cael tren i Aberystwyth a... helo Gymru!
Mwynhewch eich diwrnod heddiw, gobeithio bydd o'n braf :)
sobota, 30 czerwca 2012
czwartek, 21 czerwca 2012
Llwyddiant
O, dwi mor falch
i ddweud fy mod wedi llwyddo yn fy arholiad Saesneg llafar. Ac arholiad olaf o’r
math yma fy mywyd oedd hwn, felly, boddhad dwbl sydd arnaf ar hyn o bryd! (A diolch byth am hyn, doeddwn i ddim yn hoffi arholiadau llafar Saesneg. O gwbl!)
Yn ei ystod, roeddwn yn siarad am unfathiant cenedlaethol, a sut mae pobl dramor yn canfod Gwlad Pwyl a
phobl y wlad. Hefyd, ceisiais egluro ym mha ffordd bydd pobl Gwlad Pwyl colli eu
unigrywdiaeth wrth iddynt gymryd drosodd patrymau
gwledydd eraill ynglŷn a sioeau
ar y teledu ac ymddwyn yn gyffredinol. Pwnc nad oeddwn yn hoff iawn ohono,
felly es i ar goll a dechrau ailadrodd yr un peth, ond efallai roedd y rhai a
oedd yn gwrando arnaf wedi blino llwyr, felly ni sylweddolon nhw. A pheth
pwysicaf ydy’r ffaith imi lwyddo. Diolch i bobl garedig y comisiwn!
Rŵan,
yr unig peth bydd yn rhaid imi ei wneud ydy dysgu’n galed ar gyfer Astudiaethau
Ewropeaidd, mae gen i lawer o bynciau gwahanol i wybod amdanynt, a dim ond cwpl
o ddyddiau i gaffael gwybodaeth hanfodol. A pe llwyddwn yn yr arholiad yma hefyd, gallwn aros yng Nghymru am dri mis heb broblem. (Cyffro!)
Diolch
i bawb a oedd yn groesi eu bysedd, mae arnaf un i chi i gyd, yn enwedig pe byddech mor garedig i wneud hyn unwaith eto ddydd Mercher!
sobota, 16 czerwca 2012
Arholiad & Hwyl a Sbri
Da iawn yn wir, llwyddais fynd drwy un arholiad arall,
sef: Gwyddeleg! Mewn gwirionedd, roeddwn yn mwynhau fy hun wrth ysgrifennu,
doedd o ddim yn rhy anodd (peth da!). Ond, i ddweud y gwir, rodd yna lawer i
ddysgu: penodau o dri llyfr (deg ar hugain ohonynt!), disgrifiad un o agweddau
oddi lyfr “Caisleáin Óir” (Castell Aur) gan Séamus Ó Griana ac un peth am hanes
Iwerddon neu un gan Wyddeleg. Bydd yna bosibilrwydd inni gael 400 pwynt (eithaf
llawer!). Rŵan dwi’n disgwyl fy arholiad Saesneg llafar (a dwi’n ei ofni dros
ben llestri!); ar ôl imi gael fy nghyfweliad, byddaf yn gwybod fy holl
ganlyniadau Saesneg. [O, plîs... J]
Ar
ôl yr arholiad, roedd gennym barti bach er mwyn inni gael cyfle i ffarwelio dau
o’m hathrawon: ein hathro Gwyddeleg ac athrawes Gaeleg yr Alban. Rydym yn
gwneud hyn bron â phob blwyddyn, ac mae hyn yn eithaf rhwystredig- rwyt ti’n
dechrau hoffi rhywun ac mae o/hi’n penderfynu mynd. Ie, beth bynnag: rydym wedi
paratoi crysau-T arbennig iddynt, y rhai â argraffiadau doniol neu sy’n awgrymu
pethau. Llynedd, fel enghraifft, cafodd dau athro crysau â ffrwchnedd (-i?
–au?) ac isdeitlau (pe gallwn ddefnyddio’r gair hwn yn y cyd-destun yma) “To
jest ffrwchnedd, tej” (“Dyma ffrwchnedd”, a defnyddir ‘gair’ “tej” gan
bobl Poznań yn unig).
Roeddem
yn gwylio gêm Sweden yn erbyn Lloegr hefyd, ac roeddem i gyd yn cefnogi Sweden,
felly trueni nad enillon nhw... Roeddent mor agos! Ond rŵan byddem i gyd yn
cefnogi Gwlad Pwyl, maen nhw’n chwarae yn erbyn Gweriniaeth Tsiec heno, ac bydd
yn rhaid iddynt ennill er mwyn symud ymlaen. Felly croeswch eich bysedd!
wtorek, 12 czerwca 2012
Arholiadau, diwrnod dau
Iawn, dwi’n dal i
fyw ar ôl y rhan ramadegol, diolch byth! A beth gallaf ei ddweud? Pan oeddwn yn
ysgrifennu, meddyliais: ‘pa mor hawdd! Pam?’ Ac yn wir, doeddwn i ddim yn
disgwyl byddwn yn gallu mynd trwy’r holl arholiad mor gyflym! Yn gyffredinol,
roeddem i newid strwythurau brawddegau, meddwl am eiriau, cywiro gramadeg ayyb.
Hwyl a sbri J Ond wedyn, gwnes i gamgymeriad o’i drafod
â’m ffrindiau. A dwi wedi darganfod bod gennym lawer o atebion gwahanol, felly
dwi ddim yn sicr am iddo fod yn hawdd bellach, dwi wedi dechrau meddwl am holl
gamgymeriadau chwerthinllyd fy mod wedi’u gwneud. Dwi ddim yn gallu helpu fy
hun!
Ond beth bynnag, dwi’n
nerfus cyn dydd Mercher, dwi’n credu mai y diwrnod hwn bydd gen i fy arholiad
llafar. Ac mae pob un ohonynt yn hunllef arteithiol imi, dwi’n jest methu trafod
pethau yn y Saesneg! Ond gawn ni weld sut mae o, efallai bydd pawb a fydd yn
gwrando amdanaf yn ddigon garedig i gael imi lwyddo, pwy a ŵyr? Peidiwch ag
anghofio am groesu eich bysedd unwaith eto!
poniedziałek, 11 czerwca 2012
Arholiadau, dwirnod un
Da iawn yn wir,
mae’r diwrnod cyntaf arholiadau wedi dod i ben, roeddem i ysgrifennu traethawd heddiw,
ac roedd yna ddewis rhwng dau opsiwn: un dadleugar (argumentative?) ac un
esboniadol (expository?). Teitl yr opsiwn cyntaf oedd “Dylai gwledydd y
gorllewin ofni ehangu dylanwadau Tsieineaidd ynglŷn a gwleidyddiaeth a economi?”,
ac yr ail opsiwn: “Beth gallai llywodraeth wneud er mwyn rhoi cymorth i rieni
wrth fagu plant?” Oherwydd doeddwn i ddim yn ysgrifennu traethodau esboniadol ers
tua dwy flynedd, penderfynais am Tsieina. Fel efallai rydych yn cofio,
dwi wedi sôn am fy mhroblemau wrth greu pethau yn y Saesneg eleni, ond
diflannon nhw y tro yma! Creais gynllun ac wedyn ysgrifennu draethawd o fewn
tua awr a hanner, felly gwyrth a ddigwyddodd? Bod yn onest, dwi’n gobeithio nad
ydy hyn yn golygu fy mod wedi creu rhywbeth gwarthus, mae’n ymddangos iddo fod
yn rhy hawdd, onid ydy? Rhag ofn, fyddaf ddim yn disgrifio beth ysgrifennais amdano, mae'n well gen i aros, gobeithio’r gorau a pheidio a
phoeni!
Beth bynnag, dwi’n
fwy nerfus o achos yfory, mae rhan ramadegol yn aros amdanaf... Yn y cyfamser,
dwi’n ceisio edrych ar fy llyfrau gramadeg ac ymarfer strwythurau mwyaf
cymhleth. Felly: peidiwch ag anghofio i groesi eich bysedd yfory! A diolch
ymlaen llaw J
czwartek, 31 maja 2012
Arholiadau ac eraill
Mae gwyliau'n dod yn nes ac yn nes, felly yr unig peth
sydd ar ôl ydy… arholiadau (cerddoriaeth ddramatig, drymiau, sgrechiadau ayyb).
Dwi’n eithaf nerfus oherwydd dwi ddim yn teimlo’n rhy dda yn arholiadau llafar,
yn enwedig y rhai Saesneg, dwi wedi sylwi fy mod yn teimlo llawer well pan rydw
i’n siarad Cymraeg eleni, ond pam? Nid Cymraeg ydy fy ail iaith... Rhyw ddirgelwch
mawr sy’n bod yma!
Ond beth bynnag, bydd yn rhaid imi sefyll hwn a dwy ran arall arholiad
Saesneg: y rhan ysgrifennu a gramadeg. Doedd gen i ddim gramadeg ers mwy na flwyddyn,
ond dwi’n gobeithio bydd gen i eithaf digon o amser i baratoi, mae gen i lawer
o lyfrau gramadeg o’r flwyddyn ddiwethaf a’r un cyn hon. Yn y bôn, mae
enghreifftiau yr un fath o gystrawennau bob tro, ond maen nhw’n cael mwy cymhleth
ar yr un pryd, felly... Wel, fel dywedodd fy ffrind heddiw, mae fy mhrifysgol yn
ceisio gwneud i bobl wneud yn wael yn ystod arholiadau. Gwir! Ond fel arall,
fydd lefel astudiaethau ddim mor dda fel rŵan...
Beth bynnag eto, arholiadau eraill (dwi ddim eisiau sôn am ysgrifennu, dwi’n
methu gorfodi i finnau ysgrifennu’n dda eleni, dwi, mwy neu lai, wedi
canolbwyntio ar y Gymraeg i ryw raddau. Dwi’n mwynhau fy hun wrth ysgrifennu yn
yr iaith hon, fel enghraifft y blog yma! Ond petaswn yn ceisio gwneud yr un
peth yn Saesneg, wel, methwn, dwi’n sicr.
Ymddiheuriadau, mae fy meddyliau’n crwydro heddiw, dwi’n ysgrifennu am
bopeth ond beth ydw i’n ei fwriadu. Felly: Gwyddeleg, Cymraeg ac Astudiaethau Ewropeaidd.
Dwi’n eithaf ofn o arholiad Gwyddeleg, gan fy mod yn deimlo nad ydw i’n ei
gwybod yn ddigon da (ydw i wedi sôn am hyn o’r blaen?) Ynglŷn a’r Gymraeg: wel,
ar hyn o bryd does gen i ddim rheswm i boeni, ond efallai mi wna i ddechrau’n
fuan, pwy a ŵyr? Ac y pwnc olaf: dwi wedi mynychu bron a phob gwers, felly,
mewn theori, dylwn wybod digon o bethau i lwyddo. Ond mae cymaint o bethau i’w
cofio! Hanes Ewrop ac yr Undeb Ewropeaidd, ei strwythurau, holl gytundebau ayyb...
Wel, yr unig beth galla i’w ddweud ydy: gawn ni weld. Dwi ddim yn poeni
gormod, dwi ddim yn gallu o achos Cymru sy’n fy nisgwyl, felly dwi’n gobeithio’r
gorau!
Hwyl fawr i bawb.
wtorek, 29 maja 2012
Cais bach
Ymddiheuriadau fy mod yn defnyddio fy mlog ar gyfer pethau fel hyn, ond bydd gen i gais, fel yn y teitl.
Efallai rydych chi, pobl sy'n darllen hyn, yn gwybod am unrhyw le (un rhad/ rhesymegol) yn/ ger Llanbedr lle gallai tair ohonom aros am dri mis? Rydym yn chwilio am rywbeth rhatach na 200 punt y mis, pe byddai'n bosibl...
Dwi'n credu bydd pob un ohonom yn ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth o'ch rhan chi!
Efallai rydych chi, pobl sy'n darllen hyn, yn gwybod am unrhyw le (un rhad/ rhesymegol) yn/ ger Llanbedr lle gallai tair ohonom aros am dri mis? Rydym yn chwilio am rywbeth rhatach na 200 punt y mis, pe byddai'n bosibl...
Dwi'n credu bydd pob un ohonom yn ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth o'ch rhan chi!
Subskrybuj:
Komentarze (Atom)