Ar
ôl yr arholiad, roedd gennym barti bach er mwyn inni gael cyfle i ffarwelio dau
o’m hathrawon: ein hathro Gwyddeleg ac athrawes Gaeleg yr Alban. Rydym yn
gwneud hyn bron â phob blwyddyn, ac mae hyn yn eithaf rhwystredig- rwyt ti’n
dechrau hoffi rhywun ac mae o/hi’n penderfynu mynd. Ie, beth bynnag: rydym wedi
paratoi crysau-T arbennig iddynt, y rhai â argraffiadau doniol neu sy’n awgrymu
pethau. Llynedd, fel enghraifft, cafodd dau athro crysau â ffrwchnedd (-i?
–au?) ac isdeitlau (pe gallwn ddefnyddio’r gair hwn yn y cyd-destun yma) “To
jest ffrwchnedd, tej” (“Dyma ffrwchnedd”, a defnyddir ‘gair’ “tej” gan
bobl Poznań yn unig).
Roeddem
yn gwylio gêm Sweden yn erbyn Lloegr hefyd, ac roeddem i gyd yn cefnogi Sweden,
felly trueni nad enillon nhw... Roeddent mor agos! Ond rŵan byddem i gyd yn
cefnogi Gwlad Pwyl, maen nhw’n chwarae yn erbyn Gweriniaeth Tsiec heno, ac bydd
yn rhaid iddynt ennill er mwyn symud ymlaen. Felly croeswch eich bysedd!
Brak komentarzy:
Prześlij komentarz