Iawn, dwi’n dal i
fyw ar ôl y rhan ramadegol, diolch byth! A beth gallaf ei ddweud? Pan oeddwn yn
ysgrifennu, meddyliais: ‘pa mor hawdd! Pam?’ Ac yn wir, doeddwn i ddim yn
disgwyl byddwn yn gallu mynd trwy’r holl arholiad mor gyflym! Yn gyffredinol,
roeddem i newid strwythurau brawddegau, meddwl am eiriau, cywiro gramadeg ayyb.
Hwyl a sbri J Ond wedyn, gwnes i gamgymeriad o’i drafod
â’m ffrindiau. A dwi wedi darganfod bod gennym lawer o atebion gwahanol, felly
dwi ddim yn sicr am iddo fod yn hawdd bellach, dwi wedi dechrau meddwl am holl
gamgymeriadau chwerthinllyd fy mod wedi’u gwneud. Dwi ddim yn gallu helpu fy
hun!
Ond beth bynnag, dwi’n
nerfus cyn dydd Mercher, dwi’n credu mai y diwrnod hwn bydd gen i fy arholiad
llafar. Ac mae pob un ohonynt yn hunllef arteithiol imi, dwi’n jest methu trafod
pethau yn y Saesneg! Ond gawn ni weld sut mae o, efallai bydd pawb a fydd yn
gwrando amdanaf yn ddigon garedig i gael imi lwyddo, pwy a ŵyr? Peidiwch ag
anghofio am groesu eich bysedd unwaith eto!
Brak komentarzy:
Prześlij komentarz