Nodyn byr am y sefydliad sy'n wrth ei greu ar hyn o bryd yn y brifysgol, sef Cymdeithas Gwlad Pwyl a Chymru (Towarzystwo Polsko-Walijskie yn y Bwyleg). Rydyn ni'n anelu at greu cysylltiadau rhwng y ddwy wlad (o ran ochr academaidd a diwyllianol yn bennaf). Roedd y Gymdeithas yn gweithio llynedd, yn trefnu digwyddiadau ym Mhoznań fel cyfafrodau sgwrsio, nosau ffilm neu gymdeithasu ayyb.
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n ceisio ei sefydlu'n swyddogol, fel cymdeithas. Gan bod biwrocratiaeth yng Ngwlad Pwyl yn ddrwg iawn, mae'n cymryd cryn dipyn o amser, ond mae diwedd gweithredu'n nesau.
Hefyd, rydyn ni'n casglu syniadau am sut bydd y Gymdeithas yn gweithio a phwy o Gymru gallen ni'n cysylltu efo fo/hi. Roedden ni'n meddwl am fyrdd o bosibiliadau fel darlithoedd, ond hefyd cyngherddau bandiau Cymreig ym Mhoznań. Hoffen ni gael cymaint o gysylltiadau ag sy'n bosib.
Felly, o'm rhan innau, hoffwn i ddweud bod y cyfan yn gyffrous iawn, ac hefyd gofyn i'r rhai sy'n darllen hwnnw: efallai bod gynnoch chi syniadau neu hoffech chi helpu mewn unrhyw ffordd er mwyn gwneud i'r Gymdeithas weithio'n dda? Mae proffeil CGPaCh ar Weplyfr ar gael i chi islaw.
Gwefan Facebook Gwlad Pwyl a Chymru
Brak komentarzy:
Prześlij komentarz