Foneddigion a boneddigesau, roeddwn yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf fy mywyd heddiw. Diolch byth dywedwyd wrth fy ffrind am lwybr arall (dros bryniau Aberystwyth unwaith eto :)). Aethom heibio Canolfan Chwaraeon, ac oherwydd nad oeddem yn nabod y lle, roedd yn rhaid inni gerdded heibio adeiladau'r brifysgol (dwi'n credu) i gyd, ac wedyn troi nol at y Llyfrgell. Ond edrychodd adeilad y Llyfrgell mor grand, wir i chi, ac roeddwn mor falch imi fod yno!
Diolch i chi, Gymry, am beidio a gwneud trafferth pan bydd rhywun allan o'r wlad eisiau dod yn aelod, doedd dim rhaid imi wneud dim byd ond cwblhau rhyw fath o holiadur, a thynnwyd llun ohonof. Rwan, mae gen i gerdyn newydd sbon (mor falch ohono!) a gallaf gael unrhyw beth rydw i ei eisiau (tu fen y Llyfrgell, wrth gwrs!).
Ac mae cymaint i'w weld yn y LlGC ar wahan i'w llyfrau, wrth gwrs, mae darn mawr o hanes a diwylliant Cymru wedi'i storio fan yma, dwi wedi clywed sawl can protest oddi peiriant cerddorol (beth bynnag ydy ei enw o), megis Dwr gan Huw Jones ac International Velvet gan Catatonia (ai can brotest ydy honno?!). Hefyd, dwi wedi gweld ychydig o bethau a wnelo ag Angharad Tomos (fy hoff awdures Cymru), bydd cyfarfod a hi yn y Llyfrgell ar 20fed o fis Gorffenaf, efallai byddai modd imi fynd? Hoffwn!
Brak komentarzy:
Prześlij komentarz