Dwi ddim wedi sôn
amdano o’r blaen, ond hoffwn ysgrifennu ychydig, gan ydw i’n ceisio’n galed
gwneud rhywbeth ar gyfer fy mhapur M. A. Beth ydw i’n meddwl am Owain Glyndŵr?
Wel, mae’n rhaid imi ddweud bod darllen am ei wrthryfel yn rhwystredig iawn! Dwi’n
dychmygu iddynt fod mor agos at annibyniaeth a methu.
Dwi ddim yn gallu
helpu fy hun a thueddu meddwl am hanes Gwlad Pwyl, i gymharu. Roedd gennym wrthryfeloedd
hefyd, yn enwedig ar ôl rhaniadau’r wlad (Gwrthryfel mis Tachwedd, Gwrthryfel
mis Ionawr ayyb), a dim ond un llwyddiannus, yr un yn fy nhalaith innau. Dwi’n
cofio imi ddarllen am y gweddill, am eu llwyddiant cychwynnol, ac wedyn aflwyddiant
o achos goruchafiaeth y gelyn. Dwi’n edmygu pobl sy’n penderfynu ymladd er
hynny oll, maen nhw mor ddewr!
Ac yn ôl am
Owain. Roedd yn eithaf arbennig yn fy marn i. Er gwaethaf roedd yn byw yn gysurus
fel un o uchelwyr, penderfynodd adael popeth a herio’r brenin. Ac roedd ymateb
y Cymry’n eithaf anhygoel, roeddent hyd yn oed yn dod nôl i Gymru o Loegr er
mwyn ymuno â byddin Owain. Roedd y wlad yn annibynnol (bron) am bymtheg
mlynedd ar ôl hen Edward I J Ond, yn anffodus, methodd Ffrancwyr a ffrindiau
eraill roi digon o gymorth, ac roedd Lloegr yn rhy gryf. Mae hyn mor drist imi,
ydach chi’n gwybod? Ond efallai bydd modd i Gymru ailennill annibyniaeth. Un
diwrnod. Pe hoffai bobl y wlad, wrth gwrs.
Iawn, mae'n rhaid imi orffen, diolch am eich sylw.
Brak komentarzy:
Prześlij komentarz