czwartek, 31 maja 2012

Arholiadau ac eraill

Mae gwyliau'n dod yn nes ac yn nes, felly yr unig peth sydd ar ôl ydy… arholiadau (cerddoriaeth ddramatig, drymiau, sgrechiadau ayyb).

Dwi’n eithaf nerfus oherwydd dwi ddim yn teimlo’n rhy dda yn arholiadau llafar, yn enwedig y rhai Saesneg, dwi wedi sylwi fy mod yn teimlo llawer well pan rydw i’n siarad Cymraeg eleni, ond pam? Nid Cymraeg ydy fy ail iaith... Rhyw ddirgelwch mawr sy’n bod yma!

Ond beth bynnag, bydd yn rhaid imi sefyll hwn a dwy ran arall arholiad Saesneg: y rhan ysgrifennu a gramadeg. Doedd gen i ddim gramadeg ers mwy na flwyddyn, ond dwi’n gobeithio bydd gen i eithaf digon o amser i baratoi, mae gen i lawer o lyfrau gramadeg o’r flwyddyn ddiwethaf a’r un cyn hon. Yn y bôn, mae enghreifftiau yr un fath o gystrawennau bob tro, ond maen nhw’n cael mwy cymhleth ar yr un pryd, felly... Wel, fel dywedodd fy ffrind heddiw, mae fy mhrifysgol yn ceisio gwneud i bobl wneud yn wael yn ystod arholiadau. Gwir! Ond fel arall, fydd lefel astudiaethau ddim mor dda fel rŵan...

Beth bynnag eto, arholiadau eraill (dwi ddim eisiau sôn am ysgrifennu, dwi’n methu gorfodi i finnau ysgrifennu’n dda eleni, dwi, mwy neu lai, wedi canolbwyntio ar y Gymraeg i ryw raddau. Dwi’n mwynhau fy hun wrth ysgrifennu yn yr iaith hon, fel enghraifft y blog yma! Ond petaswn yn ceisio gwneud yr un peth yn Saesneg, wel, methwn, dwi’n sicr.

Ymddiheuriadau, mae fy meddyliau’n crwydro heddiw, dwi’n ysgrifennu am bopeth ond beth ydw i’n ei fwriadu. Felly: Gwyddeleg, Cymraeg ac Astudiaethau Ewropeaidd. Dwi’n eithaf ofn o arholiad Gwyddeleg, gan fy mod yn deimlo nad ydw i’n ei gwybod yn ddigon da (ydw i wedi sôn am hyn o’r blaen?) Ynglŷn a’r Gymraeg: wel, ar hyn o bryd does gen i ddim rheswm i boeni, ond efallai mi wna i ddechrau’n fuan, pwy a ŵyr? Ac y pwnc olaf: dwi wedi mynychu bron a phob gwers, felly, mewn theori, dylwn wybod digon o bethau i lwyddo. Ond mae cymaint o bethau i’w cofio! Hanes Ewrop ac yr Undeb Ewropeaidd, ei strwythurau, holl gytundebau ayyb...

Wel, yr unig beth galla i’w ddweud ydy: gawn ni weld. Dwi ddim yn poeni gormod, dwi ddim yn gallu o achos Cymru sy’n fy nisgwyl, felly dwi’n gobeithio’r gorau!

Hwyl fawr i bawb.

wtorek, 29 maja 2012

Cais bach

Ymddiheuriadau fy mod yn defnyddio fy mlog ar gyfer pethau fel hyn, ond bydd gen i gais, fel yn y teitl.

Efallai rydych chi, pobl sy'n darllen hyn, yn gwybod am unrhyw le (un rhad/ rhesymegol) yn/ ger Llanbedr lle gallai tair ohonom aros am dri mis? Rydym yn chwilio am rywbeth rhatach na 200 punt y mis, pe byddai'n bosibl...

Dwi'n credu bydd pob un ohonom yn ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth o'ch rhan chi!

niedziela, 27 maja 2012

Chwyrlïo

Diwrnod "Chwyrlïo" swyddogol ydy heddiw, dwi newydd ei gyflwyno :)


Rhag ofn i chi heb ei wybod eto, can gan The Joy Formidable ydy "Chwyrlïo", fersiwn Cymraeg "Whirring". Mae "Whirring" yn un o'm hoff ganeuon byth, wir i chi!


Dwi'n gwybod bod TJF yn eithaf poblogaidd ar hyn o bryd ym myd cerddoriaeth, onid ydynt? Ond nid ydy pawb yn gwybod eu bod nhw wedi bodoli ers tua pum mlynedd ac maen nhw wedi rhyddhau cerddoriaeth gwahanol i "The Big Roar". 


Dwi'n cofio imi ddechrau gwrando arnynt bryd hynny oherwydd roedd "Whirring" ar gael fel lawrlwythiad am ddim oddi ar y wefan last.fm. Ces i'r mantais yma ac, er nad oeddwn yn hoff o'r fath gerddoriaeth yn y gorffennol, hon oedd un o ganeuon gorau fy mod wedi'u clywed erioed. Anhygoel o dda! Mae hyn yn ddilys bellach, mae'n amhosibl imi gael ddigon o'r gan. Ac ynglŷn a fersiwn Cymraeg: dwi mor hapus eu bod yn defnyddio eu hiaith nhw, a dwi'n gobeithio clywed mwy o'r Gymraeg, efallai holl albwm? Hoffwn eu clywed yn siarad mwy yn y Gymraeg hefyd, dwi erioed wedi, ar wahân i 'nos da' yn ystod un o'u cyngherddau)


Felly, gadewch imi roi un neu ddau (neu dri. neu bedwar) fersiwn "Whirring" i chi, a "Chwyrlïo" ei hunan hefyd.


Dyma fersiwn o'u halbwm "A Balloon Called Moaning" (albwm mini? dim ond wyth trac):

Dyma fersiwn "The Big Roar", felly fersiwn newydd, yr un â rhan offerynnol wych:

Dyma fersiwn acwstig hyfryd, ac ychydig o'r Gymraeg!

A "Chwyrlïo" ei hunan! Roeddwn yn ceisio ysgrifennu'r geiriau heddiw, pan oeddwn yn gwrando ar y gan. Ac roedd hyn yn eithaf llwyddiannus, dim ond ychydig o gamgymeriadau a wnes i a chwpl o eiriau fy mod heb eu deall/clywed) (des i o hyd i'r geiriau ar ôl imi orffen fy ngwaith fy hun, da, achos wnes i hyn ar fy mhen fy hun. A dwi mor falch ohonaf :))


Dyma ni, diolch am ddarllen (a gwrando!)

sobota, 26 maja 2012

Trydaru

Wel, wel, wel, dwi wedi cael cyfrif Trydar ar y tro cyntaf fy mywyd. A bod yn onest, dydy Trydar ddim yn boblogaidd yng Ngwlad Pwyl, ac am amser hir roeddwn yn meddwl nad ydwi ei angen, ond yn ddiweddar (ddoe efallai) darllenais am boblogrwydd yr iaith Gymraeg yno.

Dwi ddim yn gallu dweud ar ôl un diwrnod yn unig, ond dwi'n gobeithio bod hyn yn wir! Dwi'n bwriadu glynu wrth y Gymraeg fy hun, beth bynnag, a dwi'n edrych ymlaen at weld yr iaith a ddefnyddir ar lafar. Hoffwn fedru defnyddio'r iaith fel yma, gan dim ond safon (os oes yna unrhyw beth fel safon!) amherffaith â chymysged o elfennau Gogleddol a Deheuol ydwi'n ei hysgrifennu a'i siarad ar hyn o bryd :)


Gawn ni weld!

piątek, 25 maja 2012

Newyddion da!

Dwi mor hapus, dwi yn mynd i Gymru eleni!!!

Ymddiheuriadau, dwi ddim yn gallu meddwl yn glir nawr, efallai ysgrifennaf fwy hwyrach.

ffynhonnell: http://www.weathat.com/images/pumpkin/very-happy-pumpkin.jpg

Owain G.


Dwi ddim wedi sôn amdano o’r blaen, ond hoffwn ysgrifennu ychydig, gan ydw i’n ceisio’n galed gwneud rhywbeth ar gyfer fy mhapur M. A. Beth ydw i’n meddwl am Owain Glyndŵr? Wel, mae’n rhaid imi ddweud bod darllen am ei wrthryfel yn rhwystredig iawn! Dwi’n dychmygu iddynt fod mor agos at annibyniaeth a methu.

Dwi ddim yn gallu helpu fy hun a thueddu meddwl am hanes Gwlad Pwyl, i gymharu. Roedd gennym wrthryfeloedd hefyd, yn enwedig ar ôl rhaniadau’r wlad (Gwrthryfel mis Tachwedd, Gwrthryfel mis Ionawr ayyb), a dim ond un llwyddiannus, yr un yn fy nhalaith innau. Dwi’n cofio imi ddarllen am y gweddill, am eu llwyddiant cychwynnol, ac wedyn aflwyddiant o achos goruchafiaeth y gelyn. Dwi’n edmygu pobl sy’n penderfynu ymladd er hynny oll, maen nhw mor ddewr!

Ac yn ôl am Owain. Roedd yn eithaf arbennig yn fy marn i. Er gwaethaf roedd yn byw yn gysurus fel un o uchelwyr, penderfynodd adael popeth a herio’r brenin. Ac roedd ymateb y Cymry’n eithaf anhygoel, roeddent hyd yn oed yn dod nôl i Gymru o Loegr er mwyn ymuno â byddin Owain. Roedd y wlad yn annibynnol (bron) am bymtheg mlynedd  ar ôl hen Edward I J Ond, yn anffodus, methodd Ffrancwyr a ffrindiau eraill roi digon o gymorth, ac roedd Lloegr yn rhy gryf. Mae hyn mor drist imi, ydach chi’n gwybod? Ond efallai bydd modd i Gymru ailennill annibyniaeth. Un diwrnod. Pe hoffai bobl y wlad, wrth gwrs.

Iawn, mae'n rhaid imi orffen, diolch am eich sylw.

wtorek, 15 maja 2012

Stori fach

Efallai eich bod yn cofio imi  sôn am ysgrifennu gwaith cartref Cymraeg, ydych chi? Dwi wedi gorffen, o'r diweddd ac yn ffodus! Dwi ddim yn gwybod os ydy hyn yn dda, ond roeddwn yn mwynhau fy hun yn fawr iawn wrth ysgrifennu'r rhan fach hon (dim ond un o sawl rhan fy ngwaith), felly penderfynnais i'w rhoi yn y fan yma, gobeithio byddech yn mwynhau'i darllen. Dyma'r rhan am fersiwn hud a lledrith ynglyn a lladrata banciau, lle ydw i'n ysgrifennu am eitemau hanfodol yn y broses.

Y peth cyntaf sy’n hanfodol ydy clogyn yr anweledigrwydd. Quetzalcoatl, Y Neidr Pluog, duwdod Mesoamerica oedd perchennog y glogyn, a chuddir yng nglawgoed[1] Amasonia. Credwyd bod Quetzalcoatl wedi ei gadael tu fewn un o byramidiau Amasonia pan benderfynodd i hedfan i ffwrdd o’r Ddaear er mwyn ymuno â nadroedd eraill a chychwyn teulu.
            Yr ail beth byddet ei angen ydy hudlath rhaglennadwy[2] â medr i agor drysau a galluogi pobl i fynd drwy waliau. Mae’n amlddefnydd, ond efallai syniad gwell bydd ei rhoi i’th dechnegydd, gan ofynnwyd gwybodaeth dechnegol er mwyn ei defnyddio. Dywedir mai ysgyren hudlath Myrddin ei hun ydy hi, ac mae stori arbennig a wnelo a hi. Un diwrnod, roedd Myrddin yn cerdded yn hamddenol drwy arddi un o gestyll Gwrtheyn. Yn sydyn, ymosodwyd arno gan y ddraig wyn ffyrnig a oedd wedi’i brathu gan y ddraig goch. Dywedodd wrth Myrddin ei fod yn y trafferth a dechrau ceisio ei ladd. Ond roedd hudlath gan Myrddin, felly dechreuodd yntau curo’r ddraig ar ei ben. Ond fel adnabyddir yn gyffredin, mae croen trwchus gan dreigiau, felly torrwyd y hudlath. Dechreuodd Myrddin ffoi efo dau hanner o’i ffon hud, ac yn y diwedd llwyddodd i guddio yng ngheinciau’r goeden afalau. Yn anffodus, ydisgynnodd darnau’r hudlath wrth ei ddringo a chymerwyd gan y ci a oedd yn mynd heibio’r goeden. Mae’r holl chwedl ar gael yn Archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, gwiria hwn os hoffet ei chael.
            Yr eitem nesaf ydy mwgwd hypnoteiddio a oedd yn rhan o feddrod Tutankhamun, Pharo’r Aiff hynafol. Rhoddwyd hwn iddo gan brenin tiriogaeth Persia, ond oherwydd bu farw mor gynnar, doedd ganddo ddim cyfle i’w ddefnyddio. Ar ôl canrifoedd, dwynwyd gan lladron dienw a rhoddwyd i Napoleon Bonaparte ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth ddefnyddio’r mwgwd, gallai Napoleon argyhoeddi pobl i’w resymeg a llwyddo i ennill tiriogaethau anferth Ewrop. Yn anffodus, aethpwyd ag ef oddi wrtho pan oedd yn Rwsia (mae ffynonellau’n amau boiariaid wedi meddwi a oedd yn hambygio byddin Napoleon. Ar ôl bu farw, rhoddwyd y mwgwd i’r beddrod ei hun ym Mharis, felly dylai fod ar gael o hyd yn y fan yna.
            Yr eitem olaf ydy carped hedfanol a oedd yn eiddo Aladin. Mwy na thebyg, rwyt yn gwybod am ei anturiaethau, gan cyflwynwyd yn eithaf da gan Mr. Disney, ond dim ond ambell un sy’n gwybod beth ddigwyddodd iddo’n hwyrach. Felly, yn ôl fy ffynonellau, cludwyd i ffwrdd i’r India fel anrheg i frenin un o diriogaethau, ac wedyn i Ewrop, yn fwy na thebyg i Iwerddon, fel rhodd i un o arglwyddi cyfoethog. Erbyn hyn, doedd neb yn gwybod bod y carped yn gallu hedfan, ond roedd o’n brydferth iawn oherwydd addurniadau. Ar ôl i’r arglwydd farw, symudodd ei deulu i Ddenmarc (does neb yn gwybod pam, mae’n ymddangos). Aeth canrifoedd heibio, ac un diwrnod cafodd baban arbennig ei eni i’r teulu. Cyfenw wreiddiol y teulu oedd Andhóirs, ond er mwyn ymaddasu i’w gwlad newydd, newidiasent fo i Andersen. Ac enw’r baban oedd Hans Christian. Un diwrnod, yn ôl ei hunangofiant, roedd yn chwarae yn selar ei dŷ a dod o hyd i’r carped. Y peth cyntaf a wnaeth roedd ei ddadbacio, a phan welodd ei harddwch, eisteddodd arno a gweiddodd: ‘hedfan!’. I’w syndod enfawr, dechreuodd y carped hedfan ac roedd Hans fach wrth ei fodd. Ers hynny, roedd yn defnyddio’r carped yn rheolaidd, a blynyddoedd wedyn ysgrifennodd un o’i chwedlau enwog am y carped hedfanol. Cyn iddo farw, rhoddodd y carped o dan cerflun y seiren yng Nghopenhagen.


[1] Rainforest, yn ôl yr awdures ei hun
[2] Programmable, gair yr awdures ei hun

poniedziałek, 7 maja 2012

Hapfeddyliau

Dwi yng nghanol ysgrifennu fy ngwaith cartref ar gyfer y wers Gymraeg yfory. Yn anffodus imi, aeth fy syniadau ar ffo a throdd fy mhen yn wag. Efallai gallaf eu hailddarganfod nhw ar ôl imi ysgrifennu am ychydig yn lle arall? Ond mae'n rhaid imi ddefnyddio'r Gymraeg, siŵr o fod, er mwyn imi gadw fy rhythm Cymraeg arbennig!

Roeddwn yn meddwl am y peth Erasmws soniais amdano un neu ddau fis yn ôl. Dwi'n cofio i un o fenywod sôn am y ffaith bydd canlyniadau a manylion ynglŷn a'r ysgoloriaethau ar gael rywbryd ym mis Mai. Ond pryd yn union? Does gen i ddim syniad, ond eto hoffwn wybod cyn gynted â phosibl. Mae llawer o bethau sydd angen cael eu trefni. Bydd yn rhaid inni fwcio'r hediad, rhaid i finnau gael cerdyn credyd (does gen i ddim un ar hyn o bryd), darparu fy hun ac eitemau hanfodol, ac yn y blaen. Dwi'n nerfus yn fawr iawn, gan nad ydwi'n sicr am fy llwyddiant yn y mater hwn, ond dwi'n edrych ymlaen i wybod ar yr un pryd. Dwii ddim yn hoff o ansicrwydd ac aros.

Roeddem yn siarad am beth ydy'n deilwng o'i weld a phrofi yng Nghymru, a dwi'n gallu gweld bod yna nifer o bethau anhygoel sy'n fy nisgwyl, o leiaf mewn damcaniaeth. Llawer o lefydd, bwyd (cig oen!), pobl, CYNGHERDDAU HANNER CANT! Dyma fy mreuddwyd mwyaf ar hyn o bryd. Efallai ysgrifennaf mwy am hyn yn fy nodyn nesaf, mae hyn YN deilwng nodyn arbennig!

Iawn, felly dyma ni ar hyn o bryd, diolch am ddarllen hyd y diwedd.

sobota, 5 maja 2012

Uwchlwythiadau Ffôn Symudol

Yn ddiweddarach, darganfyddais blygell yn fy ffôn symudol sy'n cynnwys lluniau a wneupwyd gen innau o'r diwrnod cyntaf ei fodoliaeth. Mae rhai ohonynt yn eithaf pleserus, felly penderfynnais i'w huwchlwytho yma. Dwi ddim yn sicr am eu cyflwr, nid ffôn ffansi ydy o, ond gawn ni weld sut mae o.

Tynnwyd hwn rywbryd yn y gaeaf

Machlud mis Rhagfyr

Drama'r Geni ym Mhoznań

Yr un peth

Eto
Ac eto

Ratusz ym Mhoznań. Mae o'n dalach na fi :)

Y nefoedd

Dynion eira

Un o bistylloedd ar Stary Rynek. Yn y cefndir: Ratusz a kamienice

Fy mwg (dwi'n hoffi'r llun yma yn fawr iawn a bod yn onest)

Y goeden yn blodeuo

Un o luniau mwyaf diweddar

Llwyn a blodau

Cymylau a'r Eglwys Cadeiriol



Mae'n ymddangos mod i'n hoff o gymylau